Menyw wedi cael ei charcharu am achosi marwolaeth dyn o Bont-y-pŵl drwy yrru peryglus
Cynnwys y prif erthygl
Mae menyw wedi cael ei charcharu am achosi marwolaeth dyn o Bont-y-pŵl ar Ddydd Nadolig trwy yrru peryglus.
Plediodd Amber Thomas, 25 oed o Bont-y-pŵl, yn euog i achosi marwolaeth trwy yrru peryglus a meddu ar gyffur dosbarth B - canabis.
Fe'i dedfrydwyd i dair blynedd ac wyth mis yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 12 Chwefror.
Galwyd swyddogion i wrthdrawiad rhwng cerddwr a Ford Fiesta coch ar Heol yr Ysbyty, Pontnewynydd, Pont-y-pŵl ar Ddydd Nadolig 2019, ychydig cyn 10.55pm.
Bu farw'r cerddwr - Ken Haynes, 48 oed o Bont-y-pŵl, ar 28 Rhagfyr 2019 o anafiadau a ddioddefodd o ganlyniad i'r gwrthdrawiad.
Gadawodd Amber Thomas, gyrrwr y Ford Fiesta, safle’r gwrthdrawiad a chafodd ei stopio gan swyddogion ar yr A4042 yn fuan wedyn.
Dywedodd Cwnstabl Heddlu Fred Hill, o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau: “Mae teulu Ken Haynes wedi bod yn eithriadol o gryf trwy gydol yr ymchwiliad a'r achos llys. Mae ein cydymdeimlad gyda nhw o hyd.
“Yn drist iawn, bu farw Mr Haynes oherwydd gweithredoedd hunanol ac anghyfrifol Amber Thomas, a oedd yn goryrru ac a oedd dan ddylanwad cyffuriau adeg y gwrthdrawiad.
"Nid oedd gan y diffynnydd yswiriant ac aeth y tu ôl i'r llyw gan wybod yn iawn bod ei thrwydded yrru wedi cael ei dirymu. Gadawodd leoliad y gwrthdrawiad cyn i'r heddlu na'r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd hefyd.
"Hoffem ddiolch i aelodau'r cyhoedd a roddodd gymorth i Mr Haynes ar ôl y gwrthdrawiad.
"Bydd Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio'n drwyadl i bob gwrthdrawiad difrifol a marwol a byddwn yn dwyn troseddwyr gerbron y llysoedd."