Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:53 07/01/2021
Mae ditectifs yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad yn Alway, Casnewydd.
Mae swyddogion yn ymchwilio i ladrad a riportiwyd mewn eiddo yn Rhodfa Greenmeadow ddydd Llun, 4 Ionawr, tua 8pm.
Cawsom ein hysbysu bod tri dyn wedi mynd i mewn i eiddo a mynnu arian gan y preswylwyr. Derbyniodd dyn 20 oed anaf bach i'w wyneb yn ystod y lladrad.
Yn ôl y disgrifiad roedd y tri dyn dan amheuaeth o dras Asiaidd, ac yn eu 20iau hwyr/ 30au cynnar.
Yn ôl y disgrifiad roedd un o'r rhai dan amheuaeth yn fawr, yn 5 troedfedd 8 modfedd o daldra, gyda llygaid brow ac roedd yn gwisgo mwgwd meddygol glas, siaced "puffa" las a throwsus tywyll.
Roedd yr ail ddyn dan amheuaeth yn denau, yn 5 troedfedd 10 modfedd o daldra ac yn gwisgo mwgwd Covid du, siaced wyrdd tywyll a throwsus du.
Roedd y trydydd dyn dan amheuaeth yn fain, tua 5 troedfedd 9 modfedd o daldra ac roedd yn gwisgo dillad tywyll, gan gynnwys het.
Roedd arian a ffôn symudol ymysg yr eitemau a gafodd eu dwyn o'r eiddo.
Mae swyddogion hefyd yn ymchwilio i fyrgleriaeth yn yr un eiddo a ddigwyddodd rhywbryd rhwng 10pm ar Ionawr y 4ydd a 6.30am ar Ionawr y 5ed. Ni chredir bod unrhyw eitemau wedi cael eu cymryd.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Jon Sliczny: "Wrth reswm, bydd digwyddiad fel hwn yn peri pryder i drigolion yn yr ardal hon. Yn lwcus, ni chafodd y dyn unrhyw anafiadau difrifol yn ystod yr ymosodiad.
“Rydym yn parhau i ymchwilio ac yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld rhywun tebyg i'r dynion a ddisgrifiwyd gysylltu â ni.
"Gofynnir i unrhyw un â lluniau CCTV neu luniau camera car o'r ardal ar y pryd gysylltu â ni hefyd trwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 2100003922. Gallwch rannu gwybodaeth trwy anfon neges uniongyrchol at ein tudalennau Facebook a Twitter hefyd.
“Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”