Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cyhoeddwyd dros 100 o hysbysiadau cosb benodedig am achosion o dorri rheolau Covid-19 dros y penwythnos yng Ngwent.
Cyhoeddwyd yr hysbysiadau i bobl am gynnal partïon mewn tai a chasglu ynghyd i gymdeithasu yn ogystal â theithio heb esgus rhesymol.
Mae swyddogion yn parhau i gynnal patrolau rhagweithiol yn y gymuned gan gynnwys gwiriadau cerbydau ar ochr y ffordd ar y ffyrdd sy'n cael eu defnyddio fwyaf. Mae'r gwiriadau hyn yn galluogi ein swyddogion i ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch pwysigrwydd cadw at reolau Covid Llywodraeth Cymru a chynnal gwiriadau diogelwch ar y ffyrdd ychwanegol ar gerbydau.
Cafodd dros 300 o fodurwyr eu stopio yn ystod gwiriadau ar ochr y ffordd dros y penwythnos. Cyhoeddwyd nifer o hysbysiadau cosb benodedig am dorri rheolau Covid-19, atafaelwyd 16 o gerbydau am ddiffyg yswiriant a chafodd 31 o fodurwyr wŷs am oryrru.
Cynhaliwyd mesurau diogelwch ffyrdd hefyd gan gynnwys profion llygaid i yrwyr a gwiriadau megis diogelwch teiars ar gerbydau.
Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough: “Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod anodd iawn i'n cymunedau a hoffem ddiolch i'r rheini sy'n dal i gadw at gyfyngiadau Llywodraeth Cymru. Rydym wedi cymryd camau gorfodi yn erbyn pobl sy'n torri'r rheolau'n ddi-hid a byddwn yn parhau i wneud hynny.
"Mae'n gwbl annerbyniol i bobl fod yn trefnu partïon yn eu tai ac yn casglu ynghyd i gymdeithasu yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r bobl sy'n mynd yn groes i'r cyfyngiadau yn peryglu bywydau.
“Mae cyfyngiadau lefel rhybudd 4 yn dal mewn grym yng Nghymru sy'n golygu y dylai pobl aros yn eu cartrefi a pheidio â theithio oni bai bod hynny'n angenrheidiol. Mae lefelau Coronafeirws yn dal yn uchel ar draws llawer o ardaloedd Gwent, a thrwy ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru mae pob un ohonom yn achub bywydau ac yn amddiffyn y GIG.
“Byddwn yn parhau i ymgysylltu, esbonio ac annog ein cymunedau i weithio gyda ni i gadw pawb yn ddiogel. Mae gan bawb ran i'w chwarae i atal lledaeniad y feirws hwn."