Peidiwch â gadael i COVID-19 ledaenu yn ein hardaloedd o brydferthwch
Cynnwys y prif erthygl
Mae Heddlu Gwent yn atgoffa cymunedau bod rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref a rhaid i bobl beidio â gyrru i ardaloedd o brydferthwch i wneud ymarfer corff - heb eithriad dilys.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn i'r cyhoedd beidio â gyrru i ardaloedd o brydferthwch i wneud ymarfer corff, gan fod Cymru'n dal ar lefel rhybudd 4.
Mae canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru'n nodi na ddylai'r cyhoedd yrru i lefydd i wneud ymarfer corff, yn arbennig ardaloedd sy'n enwog am eu prydferthwch a allai ddenu llawer o ymwelwyr. Rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref.
Mae swyddogion wedi cynnal patrolau penodedig, gan gyflwyno nifer o hysbysiadau cosb benodedig yn Rhodfa Fforest Cwm-carn, ac wedi gofyn i fodurwyr ddychwelyd i'w cartrefi.
Dywedodd prif uwch-arolygydd Mark Hobrough:
“Rydym yn ymwybodol bod llawer o ardaloedd o brydferthwch o fewn ardal y llu.
“Rydym yn deall bod gyrru i'r lleoliadau hyn i wneud ymarfer corff yn atyniadol tra bod cyfyngiadau'n parhau mewn grym a llawer o lefydd eraill wedi cau.
"Ni ellir pwysleisio digon pa mor ddifrifol yw'r argyfwng iechyd parhaus. Nid rhwystro pobl rhag teimlo eu bod yn cael gwneud ymarfer corff yw'r nod yma.
“Mae'r lefel rhybudd presennol yn gofyn bod pawb yn ystyried eu cynlluniau teithio, ac yn peidio â gadael eu cartrefi oni bai bod hynny'n hanfodol.
“Ochr yn ochr â'n partneriaid, rydym yn gofyn i bobl Gwent wneud yr hyn sy'n iawn er mwyn eu cymunedau.
"Rhaid i ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref a rhaid i bobl beidio â gyrru i ardaloedd o brydferthwch i wneud ymarfer corff.
"Bydd swyddogion yn cynnal patrolau penodedig ar draws ardal y llu, gan gynnwys mewn ardaloedd sy'n enwog am eu prydferthwch.
“Byddwn yn parhau i fod yn gymesur a byddwn yn ymgysylltu â phobl ac yn eu hannog i fod yn ymwybodol o ganllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru.
"Byddwn yn gofyn i bobl sydd wedi teithio i Went o ardaloedd cyfagos, neu o ardaloedd pellach i ffwrdd, ddychwelyd i'w cartrefi. Byddwn yn cymryd camau i orfodi'r rheolau os yw pobl yn parhau i'w torri."
O dan ganllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru, mae eithriadau am resymau meddygol neu hygyrchedd sy'n caniatáu i bobl yrru er mwyn gwneud ymarfer corff.