Bu dros 100 o arestiadau gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ym mis Rhagfyr
Cynnwys y prif erthygl
Cafodd bron i 110 o fodurwyr eu harestio am droseddau gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn ystod ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd Nadolig Heddlu Gwent.
Arestiodd Heddlu Gwent 109 o bobl ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn rhan o ymgyrch Nadolig diogelwch ar y ffyrdd yr heddlu.
Ymunodd swyddogion o Heddlu Gwent â heddluoedd ledled Cymru, a'r DU, i gynnal archwiliadau cerbydau dan arweiniad cudd-wybodaeth ar ffyrdd o fewn ardal yr heddlu rhwng dydd Mawrth 1 Rhagfyr a dydd Iau 31 Rhagfyr.
Yn ystod cyfnod yr ymgyrch, roedd mwy na hanner y modurwyr a gafodd eu harestio am droseddau gyrru oedd yn gysylltiedig â chyffuriau o dan 30 oed, ac roedd mwyafrif y modurwyr hŷn – dros 30 oed – wedi’u harestio am yfed a gyrru.
Dywedodd y Rhingyll Jason Williams:
"Er bod y mwyafrif llethol yn gyrru yn gyfreithiol, mae lleiafrif bach o fodurwyr yn dal i gredu ei bod yn gwbl dderbyniol peryglu bywydau trwy yrru ar ôl yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.
"Rydym ni wedi gweld mwy o arestiadau am yrru dan ddylanwad cyffuriau yn ystod ein hymgyrch Nadolig eleni o'i gymharu ag yfed a gyrru, ac roedd mwyafrif y modurwyr hynny a gafodd eu harestio am droseddau gyrru dan ddylanwad cyffuriau yn iau – o dan 30 oed.
"Mae gyrru dan ddylanwad cyffuriau yr un mor beryglus ag yfed a gyrru; ac mae'r un mor hawdd i’w ddarganfod yn ystod y profion y mae swyddogion yn eu cynnal yn ein trefniadau stopio a arweinir gan gudd-wybodaeth.
"Mae ein neges yn syml; peidiwch â pheryglu eich bywyd chi a bywydau defnyddwyr eraill y ffordd trwy yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Nid yw byth yn dderbyniol."
O'r 109 o arestiadau, cafodd 38 o fodurwyr eu harestio ar amheuaeth o yfed a gyrru, a chofnodwyd 71 o arestiadau am droseddau gyrru dan ddylanwad cyffuriau.
Fe wnaeth swyddogion o uned cymorth ardal yr heddlu, gyda chefnogaeth ei dîm troseddau gwledig a'i gwnstabliaeth arbennig, stopio dros 2,700 o gerbydau yn y 31 diwrnod ym mis Rhagfyr.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Glyn Fernquest:
"Mae'r Nadolig ar ben am flwyddyn arall ond mae ein nod o gadw ffyrdd Gwent yn ddiogel yn parhau i fod ar waith a bydd hynny’n parhau drwy gydol y flwyddyn.
"Mae diogelwch ar y ffyrdd o'r pwys mwyaf i Heddlu Gwent ac ni fyddwn yn goddef ymddygiad sy'n peryglu bywydau ar ein ffyrdd.
"Rydym ni eisiau pwysleisio y bydd unrhyw fodurwr sy'n cael ei ddal yn gyrru eu cerbyd yn beryglus, yn afreolus neu'n ddi-hid yn cael ei erlyn."