Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Canolfannau diogelu amlasiantaeth newydd wedi cael eu lansio yng Ngwent
Mae canolfannau diogelu newydd wedi cael eu lansio trwy Went gyfan, i helpu oedolion a phlant bregus i gael mynediad i'r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt i'w cadw nhw'n ddiogel.
Yn y canolfannau bydd nifer o asiantaethau - gan gynnwys swyddogion heddlu, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol iechyd ac addysg, swyddogion prawf a staff o'r sector gwirfoddol - yn gweithio mewn partneriaeth i ddarparu gwybodaeth werthfawr ac arbenigedd proffesiynol i sicrhau bod pobl sydd angen help yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt mor gyflym â phosibl.
Trwy weithio gyda'i gilydd bydd gweithwyr rheng flaen proffesiynol yn edrych ar bob ffurf ar fregusrwydd, gan gynnwys problemau amddiffyn plant ac oedolion fel camfanteisio, cam-drin ac esgeuluso.
Trwy ddod ag asiantaethau partner at ei gilydd dan un to, bydd y dull cydweithredol yn galluogi dioddefwyr i dderbyn y cymorth priodol gan y gwasanaethau perthnasol, gan gynnwys ymyrraeth gynnar, lle bydd plant ac oedolion yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cymorth cynnar penodol fel Teuluoedd yn Gyntaf i sicrhau eu bod yn derbyn cymorth priodol ar y cyfle cynharaf posibl.
Mae canolfannau partneriaeth ar waith yn barod yng Nghasnewydd, Torfaen a Blaenau Gwent. Mae'r canolfannau newydd hyn yn adeiladu ar gynlluniau peilot llwyddiannus sydd wedi gweld gwelliant o ran ansawdd ac amseroldeb rhannu gwybodaeth rhwng partneriaid, gan arwain at ganlyniadau gwell i bobl sydd angen cymorth.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Ian Roberts:
"Bydd y canolfannau diogelwch yn darparu dull cyson a chydweithredol ar draws Gwent.
“Trwy gydweithio gall partneriaid rannu adnoddau a gwneud penderfyniadau cyflymach pan fydd pryderon diogelu yn cael eu riportio.
"Bydd y gwasanaethau hanfodol hyn yn cynnig y cymorth cywir i deuluoedd, ar yr adeg iawn."
Dywedodd cadeiryddion Bwrdd Diogelu Gwent, Damien McCann a Keith Rutherford:
“Mae Bwrdd Diogelu Gwent yn croesawu'r datblygiad hwn y mae wedi ei gefnogi yn ystod y cynllun peilot. Mae'n dda gweld ei bod yn bosibl ei ailadrodd ar draws y pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent, a fydd yn sicrhau bod penderfyniadau i ddiogelu plant ac oedolion bregus yn cael eu gwneud yn gyflym ac yn gydweithredol. Bydd y gwaith partner hwn yn galluogi holl sefydliadau Gwent i ddefnyddio dull mwy ataliol ac ymyrryd yn gynnar.
Bydd y canolfannau newydd yng Nghaerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy.