Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae perchennog tafarn o Bont-y-pŵl wedi derbyn dirwy o £1,000 am dorri deddfwriaeth Coronafeirws, ar ôl i nifer o bobl nad oeddent yn byw yn yr eiddo gael eu darganfod yn yfed yno.
Galwyd swyddogion i dafarn Pegasus, Stryd yr Allt, Pontnewynydd, tua 8.30pm ddydd Gwener 22 Ionawr ar ôl derbyn hysbysiadau bod pobl yn ymgasglu yno.
Ar ôl i'r deiliaid wrthod mynediad i'r eiddo iddynt i ddechrau, aeth swyddogion i mewn a darganfod naw o bobl yn y dafarn; pump ohonynt yn yfed alcohol.
Dywedodd arolygydd Aled George:
“Byddwn yn cymryd camau gweithredu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel trwy weithio gyda'n hasiantaethau partner.
"I'r rheini sy'n parhau i dorri rheolau COVID-19, byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y cyhoedd a busnesau sy'n anwybyddu'r canllawiau ac yn ymddwyn yn anghyfrifol.
"Roedd hwn yn achos digywilydd o dorri'r rheolau hynny ac nid oes unrhyw esgus dros ymddygiad o'r math hwn. Gall y gweithredoedd hyn roi bywyd pobl mewn perygl, a bywydau aelodau o'u cymunedau.
“Mae'r rhan fwyaf o fusnesau a thrigolion yn gwneud y peth iawn trwy gadw at reolau Llywodraeth Cymru. Hoffem ddiolch iddynt am eu cefnogaeth.
“Byddwn yn parhau i ymgysylltu, esbonio ac annog ein cymunedau i weithio gyda ni i gadw pawb yn ddiogel. Mae gan bawb ran i'w chwarae i atal lledaeniad y feirws hwn.
“Fodd bynnag, mae lefelau Coronafeirws yn dal yn uchel ar draws llawer o ardaloedd Gwent, a thrwy ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru mae pob un ohonom yn achub bywydau ac yn amddiffyn y GIG.
“Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod anodd i bawb, ond rydym yn gofyn i bobl Torfaen, a rhanbarth ehangach Gwent, i wneud y peth iawn er mwyn eu cymunedau."
O ganlyniad i'n hymchwiliad, gyda chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, mae perchennog y busnes wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig am beidio â chau busnes neu eiddo darparu gwasanaeth heb ganiatâd i fod ar agor mewn ardal Lefel Rhybudd 4 yng Nghymru.
Cyhoeddwyd naw hysbysiad cosb benodedig i'r bobl a oedd yn bresennol yn yr eiddo trwyddedig. Canfu swyddogion bod wyth aelwyd wahanol yn bresennol.
Dywedodd y cynghorydd Mandy Owen, aelod gweithredol y cyngor dros yr amgylchedd:
"Mae ein swyddogion gorfodi rheolau Covid wedi bod yn gweithio'n galed i ymgysylltu â busnesau mewn ffordd gefnogol a chydymdeimladol er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio o ran Covid.
"Serch hynny, ymddengys bod lleiafrif o fusnesau nad ydynt yn cymryd y peryglon iechyd o ddifrif, a dyna pam rydym wedi dechrau gweithio ar y cyd â Heddlu Gwent.
“Mae'r agwedd wych hon tuag at waith partner sydd wedi cael ei mabwysiadu gan Heddlu Gwent a'n swyddogion wedi ein galluogi i ymateb yn gadarn i sicrhau diogelwch trigolion Torfaen.
"Mae Covid-19 yn fygythiad go iawn i'n trigolion ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gadw ein gilydd yn ddiogel."