Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae perchennog salon yng Nghwmbrân wedi cael hysbysiad cosb benodedig o £1,000 am dorri rheolau Covid-19.
Cafodd Heddlu Gwent ei hysbysu bod Euphoria Tanning Hair and Beauty yn Heol Glyndwr ar agor ac yn gweithio yn erbyn rheolau Llywodraeth Cymru ddydd Sadwrn, 16 Ionawr.
Aeth swyddogion i'r salon a gwelsant bobl yn mynd i mewn trwy'r drws ffrynt. Gwrthododd y bobl yn yr adeilad ymateb i geisiadau'r heddlu i agor y drws.
Pan aethant i mewn, daeth swyddogion o hyd i dystiolaeth bod gwelyau haul wedi cael eu defnyddio a bod triniaethau harddwch yn digwydd yno.
Mae lluniau CCTV yn dangos wyth o bobl yn rhedeg o'r adeilad trwy'r allanfa dân.
O ganlyniad i'n hymchwiliad, mae perchennog y busnes wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig am beidio â chau busnes / gwasanaeth heb ganiatâd i fod ar agor mewn ardal Lefel Rhybudd 4 yng Nghymru.
Mae tri chwsmer wedi derbyn hysbysiadau cosb benodedig hefyd am fod yn bresennol yn y salon, ac mae ymholiadau'n parhau i ganfod pwy oedd y bobl eraill yno.
Dywedodd Aled George, Arolygydd Torfaen: "Roedd hwn yn achos haerllug o dorri rheolau Covid-19. Mae busnesau sy'n torri'r rheolau'n ymddwyn yn anghyfrifol ac yn peryglu bywydau eu cwsmeriaid, staff a'r gymuned ehangach.
“Fel mae'r digwyddiad hwn yn dangos, ar y cyd â'n partneriaid o Gyngor Torfaen, byddwn yn cymryd camau gweithredu i gadw'r cyhoedd yn ddiogel. Byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi yn erbyn busnesau a'r cyhoedd sy'n torri rheolau Covid.
“Rydym yn deall bod hwn yn amser anodd iawn i'n cymunedau. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau a thrigolion yn gwneud y peth iawn trwy gadw at reolau Llywodraeth Cymru a hoffem ddiolch iddynt am eu cefnogaeth. Mae lefelau Coronafeirws yn dal yn uchel ar draws llawer o ardaloedd Gwent, a thrwy ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru mae pob un ohonom yn achub bywydau ac yn amddiffyn y GIG.
“Byddwn yn parhau i ymgysylltu, esbonio ac annog ein cymunedau i weithio gyda ni i gadw pawb yn ddiogel. Mae gan bawb ran i'w chwarae i atal lledaeniad y feirws hwn."
Dywedodd y Cynghorydd Many Owen, Aelod dros yr Amgylchedd: “Yn dilyn hysbysiadau bod y salon yn gweithredu'n anghyfreithlon, aeth Heddlu Gwent a Swyddogion Gorfodi Rheolau Covid y Cyngor i ymweld â'r busnes.
"Mae'n amlwg o'r lluniau CCTV a gafwyd ar ôl yr ymweliad diweddaraf bod y busnes a chwsmeriaid yn ymwybodol eu bod yn torri'r cyfyngiadau symud, gan roi eu hunain, pobl eraill a'r GIG mewn perygl. Mae Covid yn dal yn bresennol yn y fwrdeistref ac mae pawb yn gwybod ei fod yn ffynnu ar gyswllt agos, felly roedd perchennog y busnes a chwsmeriaid yn hynod o anghyfrifol yn parhau i ymweld â'r salon.
"Mae ein Swyddogion Gorfodi Rheolau Covid yn gweithio gyda busnesau yn y fwrdeistref, yn cynnig cymorth i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau. Mae hysbysiadau cosb benodedig a chamau gorfodi ffurfiol sy'n gofyn am welliannau yn cael eu cyflwyno pan fydd pob cyngor arall wedi cael ei anwybyddu.
"Dyma'r ail waith i'r busnes dderbyn hysbysiad cosb benodedig. Cyflwynwyd yr hysbysiad cyntaf gan Swyddogion Amddiffyn y Cyhoedd ym mis Mehefin 2020. Mae’r ymddygiad hwn yn siomedig iawn. Mae'r rhan fwyaf o fusnesau wedi rhoi mesurau ar waith i gydymffurfio â'r rheolau ac maent yn gweithio'n galed iawn i gadw eu busnesau i fynd, gan gynnal diogelwch eu staff a chwsmeriaid. Hoffem ddiolch i'r holl fusnesau a thrigolion sy'n gwneud y peth iawn ac yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau symud presennol."