Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ni fydd yr heddlu byth yn eich ffonio'n gofyn am arian. Dyma'r neges mae ditectifs yn gofyn i chi ei rhannu gyda'ch anwyliaid.
Rydym yn ymchwilio i nifer o sgamiau a gafodd eu riportio'r wythnos hon lle mae twyllwyr wedi honni eu bod yn swyddogion heddlu er mwyn cael gafael ar arian pobl.
Cafodd dros £26,000 ei ddwyn gan gwpwl oedrannus o Gasnewydd a thros £14,000 ei ddwyn gan fenyw 88 oed o Sir Fynwy gan sgamwyr yr wythnos hon.
Ar yr achlysuron hyn roedd y twyllwyr yn honni eu bod yn swyddogion heddlu o 'Heddlu Hertfordshire' a'r 'Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol'.
Mae hon yn sgam genedlaethol lle mae troseddwyr wedi defnyddio nifer o wahanol strategaethau gan gynnwys honni bod gweithgarwch twyllodrus wedi digwydd ar gyfrif banc y dioddefwr a bod rhaid iddynt drosglwyddo neu dynnu arian allan o'r cyfrif er mwyn ei ddatgloi.
Yn aml yn y sgamiau hyn, bydd twyllwr arall sy'n esgus ei fod yn swyddog heddlu yn casglu'r arian o gartref y dioddefwr er mwyn ei 'gadw'n ddiogel'. Mae twyllwyr hefyd yn gofyn i ddioddefwyr beidio â dweud wrth aelodau'r teulu neu'r banciau beth mae'r arian yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer oherwydd ei fod yn 'ymchwiliad cudd'.
Maent hefyd wedi gofyn i ddioddefwyr ffonio 999 neu 101 i wirio 'dilysrwydd yr alwad' ond, oherwydd bod y troseddwr yn cadw'r llinell ffôn ar agor, mae'r alwad yn cael ei hateb gan un arall o’r twyllwyr.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Louise Cruci: “Ni allaf bwysleisio digon pa mor soffistigedig yw'r sgamwyr hyn. Mae ein neges yn glir - ni fydd yr heddlu, asiantaethau'r llywodraeth na banciau byth yn gofyn i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol neu fanylion banc nac yn gofyn am arian.
"Hoffwn annog trigolion i rannu'r neges hon a chodi ymwybyddiaeth o'r sgam hon, yn arbennig ymysg perthnasau oedrannus neu aelodau mwy bregus y gymuned.
"Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda banciau lleol a'r awdurdod lleol i godi ymwybyddiaeth o'r sgam hon ac i riportio unrhyw weithgarwch amheus.
"Os cewch chi unrhyw alwadau fel hyn - sgam ydynt - rhowch y ffôn lawr a ffoniwch ni ar 101 neu 999 mewn argyfwng."