Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent wedi croesawu dros 60 o swyddogion i'r teulu plismona yn ystod wythnosau cyntaf 2021.
Dechreuodd 28 o swyddogion heddlu sy'n astudio ar gyfer cymhwyster ymarfer plismona gyda'r llu ddydd Llun 4 Ionawr, yn rhan o'r fenter genedlaethol Ymgyrch Uplift.
Ymunodd 36 o swyddogion cymorth cymunedol â'r llu wythnos yn ddiweddarach, yn rhan o ymgyrch recriwtio blynyddol Heddlu Gwent ar gyfer y rôl.
Dywedodd dirprwy brif gwnstabl Amanda Blakeman:
"Mae croesawu wynebau newydd i'r gwasanaeth heddlu, pob un ohonynt ag amrywiaeth o sgiliau a thalentau, yn achos balchder; nid yn unig i Heddlu Gwent fel sefydliad, ond i blismona fel proffesiwn, i'r swyddogion hyn ac i'w teuluoedd a ffrindiau.
“Rydym wedi ymroi i amddiffyn a thawelu meddwl y cyhoedd a bydd y swyddogion newydd hyn yn rhan o'n nod i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymunedau.
"Trwy gydol y pandemig presennol rydym wedi parhau i recriwtio a hyfforddi swyddogion newydd, i'n helpu i ddarparu gwasanaeth plismona effeithiol yn ystod y cyfnod heriol hwn ac yn dilyn toriadau i'r gwasanaeth dros nifer o flynyddoedd blaenorol.
"Mae'r buddsoddiad mewn plismona trwy Ymgyrch Uplift yn ein galluogi ni i gyflawni ein cynlluniau recriwtio presennol a llenwi swyddi gwag hanfodol.
"Wrth i ni symud trwy 2021 a thu hwnt, rydym yn gobeithio bod mewn sefyllfa i groesawu mwy o bobl i swyddi ar draws y sefydliad, gan gynnwys swyddi rheng flaen."
Er gwaethaf heriau'r argyfwng iechyd parhaus, cynhaliwyd hyfforddiant ar gyfer y swyddogion newydd mewn amgylcheddau diogel o ran COVID ochr yn ochr â dysgu rhithiol.
Dywedodd comisiynydd yr heddlu a throseddu Gwent, Jeff Cuthbert:
"Rwyf wrth fy modd bod Heddlu Gwent wedi croesawu 28 o swyddogion heddlu newydd a 36 o swyddogion cymorth cymunedol newydd y mis hwn.
“Mae dechrau gyrfa newydd yn y gwasanaethau brys, yn gweithio ar y rheng flaen yng nghanol pandemig, yn gofyn am ddewrder ac ymroddiad.
“Mae'r swyddogion newydd hyn wedi ymroi i amddiffyn a gwasanaethu ein cymunedau ac maent yn ymuno â Heddlu Gwent ar adeg dyngedfennol. Dymunwn bob hwyl iddynt ar gyfer y dyfodol.”
Ym mis Gorffennaf, ymunodd 36 o swyddogion newydd â Heddlu Gwent yn rhan o Ymgyrch Uplift; cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer 20,000 o bersonél heddlu newydd yn y DU a gyhoeddwyd ym mis Medi 2019.
I ddysgu mwy am ein swyddi gwag presennol neu i gofrestru i dderbyn gwybodaeth am gyfleoedd cyflogaeth gyda ni yn y dyfodol, ewch i'n gwefan.