Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:51 28/01/2021
Mae’r heddlu yn cyhoeddi rhybudd brys am swp cryf neu “ddrwg” o gyffuriau a all fod ar led. Mae hyn ar ôl i un dyn farw ac un arall gael ei gymryd i’r ysbyty'r wythnos hon, y ddau ohonynt o ardal Blaenau Gwent.
Dywedodd Amanda Thomas, Prif Arolygydd lleol: “Rydym yn dal i ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiadau hyn ond rydym yn credu bod y ddau ddigwyddiad yn ymwneud â chyffuriau.
"Yn amlwg, mae’r digwyddiadau hyn yn achosi pryder difrifol i ni ac rydym yn credu bod angen cyhoeddi rhybudd i bobl sy’n cymryd cyffuriau anghyfreithlon i fod yn ymwybodol, i ymatal rhag eu defnyddio ac i geisio cymorth meddygol os ydynt yn dechrau teimlo’n sâl.”