Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:25 05/07/2021
Cawsom adroddiad am ymgais i ladrata ac ymosodiad yn West Park Road, Casnewydd tua 11am ddydd Mawrth 15 Mehefin.
Mae’n debyg y daeth dau ddyn allan o gar Mercedes lliw arian, a oedd yn cael ei yrru gan drydydd dyn.
Aeth un o’r dynion i mewn i’r tŷ a siarad gyda’r dioddefwr, cyn gadael, a honwyd iddo ymosod ar y dioddefwr y tu allan i’w dŷ.
Yna rhedodd y ddau ddyn i gyfeiriad Heol Basaleg, wrth i’r trydydd dyn yrru i ffwrdd o’r cyfeiriad.
Dychwelodd y dioddefwr i’w gartref a chanfod bod bag wedi ei wagio o’i gynnwys, ond ni chymerwyd unrhyw eitemau.
Disgrifir y dyn cyntaf fel un yn ei 30au ac yn denau. Roedd yn gwisgo trowsus lliw hufen, crys gwyn â llewys hir a chap du.
Credir bod yr ail ddyn hefyd yn ei 30au ac yn denau. Roedd yn gwisgo jeans glas golau, crys gwyn â llewys hir, a chap du gyda logo gwyn arno. Roedd hefyd yn gwisgo siaced lliw tywyll.
Mae’r ymholiadau yn cael eu cynnal ac mae swyddogion yn gobeithio siarad â’r ddau ddyn hyn, a welwyd yn yr ardal ar y pryd ac a allai helpu’r swyddogion â’u hymchwiliad.
Os gallwch chi helpu’r ymchwiliad, neu os oes gennych chi unrhyw luniau teledu cylch cyfyng neu fideo o gamera mewn cerbyd, ffoniwch Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod log 2100209317.
Cewch hefyd gysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol ar Facebook neu Twitter, neu cewch roi gwybod am unrhyw wybodaeth yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111.