Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yng Nghasnewydd wedi adfeddiannu pedwar beic yn ystod y pythefnos diwethaf ac maent yn gobeithio eu rhoi yn ôl i’w perchnogion.
Daethpwyd o hyd i e-feic Voodoo du yn Nhŷ Tredegar ddydd Gwener 16 Gorffennaf, a daethpwyd o hyd i feic Contour FreeSpirit gwyrdd a du yn Devon Place, ger gorsaf drenau Casnewydd ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf.
Adfeddiannwyd y ddau feic gan dîm Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent.
Cafodd dau feic arall - un Dawes glas a du a ffrâm beic anhysbys sydd â theiar blaen ar goll - gan swyddogion o dîm plismona cymdogaeth gorllewin Casnewydd mewn cyfeiriad yn Emlyn Walk, Casnewydd ddydd Llun 26 Gorffennaf.
Arestiwyd dyn 43 oed ar amheuaeth o ddwyn beic pedal a chafodd ei ryddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau’n parhau.
Gofynnir i unrhyw un sy’n adnabod un o’r beiciau hyn neu sy’n credu y gall fod yn berchen un ohonynt, ffonio Heddlu Gwent ar 101, gan ddyfynnu rhifau cyfeirnod: Tŷ Tredegar a Devon Place - 2100262568 - ac Emlyn Walk - 2100262351.
Gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter hefyd.
Bydd angen prawf o berchnogaeth os ydych yn ceisio hawlio unrhyw un o’r beiciau.