Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:55 30/07/2021
Trefnwyd y twrnamaint pêl-droed gan y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid (EYST), Heddlu Gwent, Casnewydd Fyw a Sir Casnewydd yn y Gymuned. Ei nod yw chwalu rhwystrau a chadarnhau cydberthnasau rhwng cymunedau.
Cynhaliwyd y gêm rownd gyntaf rhwng tîm o gymuned de ddwyrain Asia a thîm o’r gymuned Yemenïaidd ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, Spytty, ddydd Sul 25 Gorffennaf.
Roedd swyddogion, swyddogion cymorth cymunedol a staff o’n hadran amrywiaeth a chynhwysiant yn bresennol i gefnogi ac ymgysylltu â chwaraewyr.
Bydd y twrnamaint yn cael ei gynnal dros yr haf a bydd yn cynnwys timau sy’n cynrychioli cymunedau Bangladeshaidd, Yemenïaidd, Pwylaidd a Sudaneaidd o Gasnewydd. Bydd y tîm buddugol yn chwarae yn erbyn tîm yr heddlu a phartneriaid mewn gêm gwpan derfynol arbennig ar 22 Awst.
Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Tom Harding: “Rydym yn falch i fod yn rhan o fenter mor wych i ddod â’n cymunedau amrywiol at ei gilydd yng Nghasnewydd. Mae meithrin cydberthynas gadarnhaol rhwng plismona lleol a chymunedau mor bwysig.
“Mae prosiectau fel hyn yn helpu i fagu ymddiriedaeth a gwella ein dealltwriaeth o anghenion ein cymunedau amrywiol. Hoffwn ddweud diolch enfawr wrth bawb sydd wedi gwneud y twrnamaint hwn yn bosibl a dymuno pob lwc i’r holl chwaraewyr.”