Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd drysau a ffenestri tŷ yn Longfellow Close, Cil-y-coed, eu gorchuddio â phren yr wythnos diwethaf yn dilyn cais llwyddiannus am orchymyn cau yn Llys Ynadon Casnewydd.
Cafodd y gorchymyn cau tri mis o hyd ei roi ar 16 Gorffennaf ar ôl i nifer o gwynion gael eu gwneud yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y cyfeiriad. Cafodd mynedfeydd y tŷ eu hatal gan bren ddydd Mercher, 21 Gorffennaf.
Yn ystod cyfnod y gorchymyn, gall yr heddlu arestio unrhyw un sy'n ceisio mynd i mewn i'r eiddo hwn yn groes i'r hysbysiad.
Dywedodd arolygydd Sir Fynwy, Nikki Hughes:
"Mae lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r eiddo hwn wedi effeithio'n negyddol ar ansawdd bywyd trigolion yng nghymuned leol Cil-y-coed dros y misoedd diwethaf. Mae swyddogion wedi gweithio gyda phreswylwyr a phartneriaid i gael y gorchymyn cau hwn.
"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i breswylwyr, os oes ganddynt bryderon am safleoedd sy’n achosi problemau a niwed i'r gymuned, y gallant roi gwybod amdanynt a byddwn yn gweithio'n galed gyda'n partneriaid i weithredu.
"Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw bryderon i gysylltu."
Sut i roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol?
📞 ffonio 101
💻 ar-lein drwy http://orlo.uk/hkPwl
📲 anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter
Ydy ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi effeithio arnoch chi?
Mae cymorth ar gael drwy Connect Gwent 📞 0300 123 21 33 neu ewch i 💻 www.connectgwent.org.uk.