Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:50 08/07/2021
Gwnaethom apelio am wybodaeth ar ôl derbyn hysbysiad am dân bwriadol yn ystâd ddiwydiannol Glandŵr, Aber-bîg, ger Abertyleri, tua 6.10am ddydd Iau 1 Gorffennaf.
Arestiodd swyddogion ddyn 31 oed o Dredegar ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol a chafodd ei gyhuddo’n ddiweddarach o dri achos o gynnau tân bwriadol, difrod troseddol, gyrru tra’i fod dan waharddiad a throsedd yn erbyn y drefn gyhoeddus.
Cafodd ei gadw ar remand nes bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd.