Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:59 16/06/2021
Mae swyddogion yn cynghori perchnogion ceir diallwedd, yn arbennig ceir Ford Fiesta ST, i fod yn wyliadwrus yn dilyn nifer o achosion o ddwyn yn ardal Gwent.
Rydym wedi cael ein hysbysu am 9 achos o ddwyn cerbydau Ford Fiesta ST ers mis Ebrill.
Mae lladron yn gallu defnyddio meddalwedd i ddarllen y signal a anfonir gan systemau mynediad diallwedd i fynd i mewn i gerbydau, felly dylech gadw eich ffob o'r golwg. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ei rwystro rhag cael ei glonio.
Mae rhai camau syml y gall pobl eu cymryd i leihau'r perygl o ddioddef lladrad o'r fath:
- Buddsoddwch mewn pwrs blocio signal ar gyfer allweddi sy'n atal lladron rhag eu sganio. Mae'r rhain yn hawdd i'w prynu ar-lein.
- Cysylltwch â'ch deliwr ceir a gwiriwch a oes angen diweddaru unrhyw feddalwedd ar eich cerbyd, a allai wella diogelwch.
- Gwiriwch a ellir tanio/diffodd y ffob. Gall eich deliwr ceir gadarnhau hyn a rhoi cyngor ynghylch sut i'w wneud.
- Os oes gennych chi gerbyd arall nad yw'n ddiallwedd, bydd parcio hwn o flaen y cerbyd diallwedd yn helpu i’w wneud yn fwy diogel.
Awgrymiadau eraill ar gyfer atal trosedd:
• Mae cloeon llyw mecanyddol, pyst rhodfa, clampiau olwyn a thracwyr yn ffyrdd effeithiol o ddiogelu cerbydau rhag lladron hefyd
Parciwch gerbydau yn y garej neu ar rodfa
• Parciwch mewn mannau gyda digon o olau a cheisiwch osgoi mannau sydd yn dywyll neu wedi eu cuddio o olwg y cyhoedd
• Peidiwch byth â gadael unrhyw eitemau personol yn y golwg yn y cerbyd
• Peidiwch â gadael tystiolaeth bod eiddo gwerthfawr yn y cerbyd e.e. marciau system llywio lloeren ar y ffenest flaen
• Sicrhewch fod cerbydau wedi'u cloi bob amser pan nad oes neb ynddynt
• Byddwch yn wyliadwrus a riportiwch unrhyw ymddygiad amheus.
Gall unrhyw un â gwybodaeth am yr achosion diweddar o ddwyn ein ffonio ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.
Gallwch roi gwybodaeth yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111 hefyd.