Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:12 18/06/2021
Rydym yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad ym Mhont-y-pŵl.
Mae swyddogion yn ymchwilio i ladrad a ddigwyddodd yn Albion Road Garage, Albion Road, ddydd Sadwrn 15 Mai am 9pm.
Hawliodd dyn a oedd yn dal cyllell arian o'r til. Cafodd aelod o staff ei ddychryn ond ni chafodd ei niweidio.
Rhedodd y dyn i ffwrdd gyda rhyw £80 mewn arian parod.
Disgrifir yr unigolyn a ddrwgdybir fel dyn gwyn, solet, rhwng 35-45 oed, tua chwe throedfedd o daldra.
Roedd yn gwisgo siaced lliw tywyll gyda logo gwyn ar yr ochr chwith a chwfl gwyn, trowsus lliw tywyll a masg wyneb Covid glas.
Dywedodd Ditectif Gwnstabl Vicki Constance o CID: "Roedd hwn yn brofiad brawychus i'r aelod o staff, na chafodd ei anafu diolch i'r drefn. Rydym yn apelio ar unrhyw un ag unrhyw wybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad i gyflwyno ei hun i ni.
“Gofynnwn yn daer ar unrhyw un a oedd yn ardal Albion Road a allai fod wedi gweld rhywun sy'n cyfateb i'r disgrifiad o'r un a ddrwgdybir i gysylltu â ni.”
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth ein ffonio ni ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 2100170135 neu gellir anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.