Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:06 08/06/2021
Rydym yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn Nhrefynwy neithiwr.
Mae swyddogion yn ymchwilio i wrthdrawiad rhwng cerddwr a seiclwr a ddigwyddodd ar gyffordd Wonastow Road a Somerset Road tua 9.55pm, ddydd Llun 7 Mehefin.
Aethpwyd â’r cerddwr, menyw yn ei 70au, i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mae ymholiadau'n parhau i ddod o hyd i'r seiclwr a adawodd y lleoliad.
Disgrifir y seiclwr fel dyn yn ei 20au a oedd yn gwisgo hwdi tywyll.
Dywedodd PS Leighton Healan: "Rydym yn apelio ar i unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth a allai gynorthwyo'r ymchwiliad i gysylltu.
"Gofynnir hefyd i unrhyw un sydd ag unrhyw luniau camera dashfwrdd o'r ardal ar y pryd i ddod atom.
"Rydym hefyd yn apelio'n uniongyrchol at y seiclwr ynghyd â'i ffrindiau a'i deulu sydd o bosib yn gwybod lle y mae ef. Mae'r cerddwr wedi dioddef anafiadau difrifol - mae'n bwysig eich bod yn gwneud y peth iawn ac yn cysylltu â ni."
I roi gwybodaeth ffoniwch ni ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100199361 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.
Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.