Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd i chwech o ddynion yr hoffem siarad â nhw yn dilyn ffrwgwd yng Nghasnewydd.
Digwyddodd y ffrwgwd ddydd Sadwrn 12 Mehefin rhwng 12.50am a 1am y tu mewn a thu allan i Clarence Food and Wine yn Clarence Place.
Dihangodd tri dyn o’r ardal mewn Mk4 VW Golf glas tywyll (gweler y llun).
Ni chredir bod unrhyw un wedi cael ei anafu.
Dyma ddisgrifiad o’r dynion yr hoffem siarad â nhw:
Gwryw 1 – yn ei 20iau o bosibl, main, gwallt brown golau yn gwisgo tracwisg du gyda chwfl a chrys-t llwyd.
Gwryw 2 - yn ei 40au o bosibl, moel, mawr ac yn gwisgo siorts a chrys-t du.
Gwryw 3 – gwallt du, main, gwisgo crys-t/hwdi du, trowsus llwyd ac esgidiau rhedeg gwyn a du.
Gwryw 4 – gwisgo siaced “puffa” las/gwyrdd gyda chap o dan y cwfl, trowsus du.
Gwryw 5 - gwisgo siaced “puffa” ddu a siwmper dywyll gyda chwfl o dan y siaced. Roedd cap pêl fas o dan y cwfl, trowsus tracwisg llwyd.
Gwryw 6 - yn ei 20iau o bosibl, main, gwisgo siorts llwyd, siaced lwyd gyda chwfl a chrysbais (body warmer) du.
Os gallwch helpu’r ymchwiliad, ffoniwch 101 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.
2100205202.