Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:45 01/07/2021
Mae canllawiau newydd i gynorthwyo llysoedd benderfynu sut i ddedfrydu’r rhai sy’n ymosod ar weithiwr brys yn dod yn weithredol heddiw, ddydd Iau, 1 Gorffennaf 2021.
Bydd canllawiau’r Cyngor Dedfrydu’n cynorthwyo’r llysoedd yng Nghymru a Lloegr i lunio asesiad cytbwys o ddifrifoldeb y drosedd a rhoi dedfryd gymesur.
Dyma’r tro cyntaf y bydd gan farnwyr ac ynadon ganllawiau penodol ar gyfer dedfrydu troseddau ymosod ar weithwyr brys, sy’n adlewyrchu’r ddeddfwriaeth a gynyddodd y ddedfryd uchaf ar gyfer ymosodiad cyffredin pan yw’r dioddefwr yn weithiwr brys.
Mae’r gwasanaethau brys yng Nghymru, lle mae ymosodiadau ar yr heddlu a chriwiau tân ac ambiwlans wedi cynyddu, wedi croesawu’r canllawiau newydd.
Dywedodd Dylan Parry, Swyddog Prosiect Trais ac Ymddygiad Treisgar Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Gall gweithred dreisgar sy’n cymryd eiliad gael effaith ddinistriol a thymor hir ar ein staff, felly mae arnom ni angen sicrhau, pan ymosodir ar weithiwr brys, y ceir cyfiawnder iddyn nhw.
“Mae’r canllawiau newydd hyn yn ychwanegiad a groesewir ac maen nhw’n darparu eglurder a chysondeb wrth ddedfrydu troseddau o’r fath.”
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly: “Mae pob ymosodiad ar weithiwr brys yn cael effaith ofnadwy ar eu ffrindiau, eu teulu a’u hanwyliaid.
“Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam ymlaen wrth sicrhau fod yr unigolion hynny sy’n cyflawni trosedd trwy ymosod ar weithiwr brys yn cael eu gwneud yn atebol.
“Bydd y canllawiau i farnwyr ac ynadon yn sicrhau bod dedfrydau’n gymesur ond hefyd yn adlewyrchu’r boen a’r dioddefaint a achoswyd gan y troseddwyr.”
Ychwanegodd Ei Anrhydedd y Barnwr Rosa Dean o’r Cyngor Dedfrydu: “Mae ymosodiad yn drosedd trawmatig a gall achosi trallod mawr i’r dioddefwr yn gorfforol ac yn seicolegol, ac mae’n bwysig bod dedfrydau’n adlewyrchu’r niwed a’r trallod a achosir i lawer o bobl.
“Bydd y canllawiau’n sicrhau cyflwyno dedfrydau priodol a chymesur ar gyfer y troseddau hyn, sy’n cydnabod yn llwyr y niwed a achosir i’r dioddefwr.”
Yn 2018 cafodd y ddedfryd uchaf dan y Ddeddf Ymosodiad ar Weithwyr Brys (Troseddau) ei dyblu o chwe mis i 12 mis yn y carchar, ond yn fuan gallai troseddwyr wynebu hyd at ddwy flynedd yn y carchar dan ddeddfau newydd.
Ym mis Mai lansiodd gwasanaethau gweithwyr brys yng Nghymru yr ymgyrch newydd Gyda Ni Nid, Yn Ein Herbyn yn gofyn i’r cyhoedd eu trin gyda pharch.
Addunedwch eich cefnogaeth ac ymunwch yn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #GydaNiNidYnEinHerbyn neu #WithUsNotAgainstUs.