Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:27 17/06/2021
Mae teulu menyw 79 oed a fu farw ar ôl gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn Nhrefynwy wedi talu teyrnged iddi.
Mae swyddogion yn ymchwilio i wrthdrawiad rhwng cerddwr a seiclwr a ddigwyddodd ar gyffordd Wonastow Road a Somerset Road tua 9.55pm, ddydd Llun 7 Mehefin.
Aethpwyd â’r cerddwr, menyw 79 oed o Drefynwy, i'r ysbyty ond bu farw o'i hanafiadau ddydd Gwener 11 Mehefin.
Gallwn gyhoeddi mai Jane Stone (née Elizabeth Jane Bruten) yw ei henw.
Mae ei theulu wedi cyhoeddi'r deyrnged ganlynol:
"Roedd Jane yn aelod gofalgar a gweithgar iawn o gymuned Trefynwy.
"Ar ôl cael ei geni a'i magu yn Nhrefynwy, cafodd hyfforddiant yn Llundain i fod yn athro, ac roedd yn aelod uchel ei pharch a gwerthfawr o'r proffesiwn hwnnw. Ar ôl iddi ymddeol, a hithau'n weddw, dychwelodd at ei gwreiddiau a chyfrannodd at sawl agwedd ar fywyd Trefynwy yn llawn brwdfrydedd.
“Roedd yn gyn warden Eglwys St. Thomas, gweinidog Ewcharist lleyg, sacristan ac roedd yn chwarae rhan fawr yn holl weithgareddau'r eglwys, yn helpu a chefnogi aelodau'r gymuned yn ôl yr angen. Roedd yn iach ac yn egnïol. Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl abseiliodd i lawr tŵr yr eglwys i godi arian. Bu hefyd yn arwain grŵp o Gofnodwyr Eglwys ar gyfer Cymdeithas y Celfyddydau (Cymdeithas Genedlaethol y Cymdeithasau Celfyddydau Addurnol a Chain gynt).
"Roedd yn aelod o Gymdeithas Gorawl Trefynwy ac yn mwynhau cyngherddau gyda Merlin Music Society.
"Roedd yn mwynhau cerdded yn bell. Heriodd ei hun i gerdded 1,000 o filltiroedd y flwyddyn a, gyda'i chydymaith, roedd yn y broses o gerdded Clawdd Offa o’r de i'r gogledd.
"Roedd Jane yn aelod annwyl iawn o'r teulu ac roedd ganddi ddiddordeb mawr ym mywydau eu gornithoedd a gorneiaint."