Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent wedi ymuno â'r elusen Kidscape i helpu i atal a mynd i'r afael â bwlio.
Mae'r elusen gwrth-fwlio Kidscape yn rhoi cymorth ymarferol, hyfforddiant a chyngor i herio bwlio ac i amddiffyn plant.
Bydd yn gweithio gyda'n tîm ymgysylltu â phobl ifanc - Nxt Gen - i hyfforddi oedolion a phlant er mwyn iddynt adnabod ac ymateb i fwlio. Eleni, tîm Nxt Gen Heddlu Gwent oedd yr heddlu cyntaf yng Nghymru i dderbyn Gwobr Efydd Llywodraeth Cymru am Waith Ieuenctid.
Bydd tîm Kidscape yn cyflwyno rhaglen ZAP yr elusen - gweithdai sy'n ymdrin ag ymwybyddiaeth o fwlio, sut i fod yn bendant a chadarn - i blant ledled Gwent.
Bydd ein Heddlu Bach yn helpu i ledaenu'r neges gwrth-fwlio maen nhw'n ei dysgu yn ystod eu hyfforddiant i'w cyfoedion hefyd.
Bydd y tîm ymgysylltu â phobl ifanc yn cymryd rhan yn y rhaglen arweinydd cymunedol hefyd. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant i ddeall effaith bwlio ar fywydau pobl ifanc, adnabod yr arwyddion a sut i roi'r cymorth gorau i blant a theuluoedd.
Dywedodd Lauren Seager-Smith, Prif Swyddog Gweithredol Kidscape: “Rydym yn falch iawn i fod yn gweithio gyda Heddlu Gwent ar ymgyrch i rymuso plant i herio pob math o fwlio a chreu cymuned ddiogel a chynhwysol. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn cydweithio i ddarparu hyfforddiant arweinydd cymunedol Kidscape i oedolion ac oedolion ifanc, gan rymuso cymuned Gwent i adnabod ac ymateb i fwlio - lle bynnag mae'n digwydd.
“Byddwn yn chwilio am gyfleoedd pellach - trwy Heddlu Bach a Chadetiaid Heddlu Gwent - i annog a chefnogi pobl ifanc i atal bwlio. Bydd ein partneriaeth yn ein galluogi i gydweithio i rannu gwybodaeth a chyngor i blant a theuluoedd."
Dywedodd Prif Arolygydd Amanda Thomas o Heddlu Gwent: "Mae ein swyddogion Nxt Gen wedi ymroi i helpu pobl ifanc yng Ngwent. Trwy weithio gyda Kidscape ein nod yw, nid yn unig mynd i'r afael â bwlio ond codi ymwybyddiaeth o'r mathau o fwlio sy'n digwydd amlaf hefyd a hyrwyddo ffyrdd i riportio bwlio'n ddiogel, heb stigma.
"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd iawn i'n cymunedau, yn arbennig i'n pobl ifanc. Rwyf am i bobl ifanc wybod bod ystod eang o gymorth ar gael i unrhyw un sy'n cael ei fwlio neu sy'n adnabod rhywun sy'n cael ei fwlio.
"Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc yn ein cymunedau."
Mae cyngor a chymorth ar gael yma: