Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Mae dau gi heddlu newydd wedi llwyddo yn eu hyfforddiant cychwynnol i gŵn heddlu gyda Heddlu Gwent.
Bydd CH Maui (Bleiddgi’r Almaen) a Woody (Bleiddgi Gwad Belg) yn ymuno â'r 25 ci yn adran cŵn yr heddlu ac yn gweithio gyda'u trinwyr i amddiffyn a thawelu meddwl cymunedau Gwent.
Yn ystod eu cwrs hyfforddiant 12 wythnos, datblygwyd gallu naturiol y cŵn i dracio, chwilio am bobl, chwilio am eitemau a dal troseddwyr.
Fel cŵn "pwrpas cyffredinol" maen nhw a'u trinwyr yn gallu cael eu defnyddio yn awr i dracio a dod o hyd i bobl ar goll neu bobl fregus a chanfod ac atal trosedd.
Yn dilyn eu cyflwyniad "cwblhau hyfforddiant" brynhawn ddoe, lle cafodd y ddau driniwr a'r cŵn eu llongyfarch gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Ian Roberts, cyflwynwyd eu rhifau coler unigryw i'r cŵn.
Yn ôl y 2019, dechreuodd Heddlu Gwent roi rhif coler penodedig i gŵn heddlu newydd - i gydnabod y rôl hollbwysig maen nhw'n ei chwarae yng Ngwent i amddiffyn cymunedau a dileu trosedd.
Penderfynwyd cyflwyno rhifau coler ar ôl i Gyfraith Finn gael ei phasio yn 2019, ymgyrch i gael gwell amddiffyniad cyfreithiol i gŵn heddlu.
Dywedodd Cwnstabl Heddlu Gareth Thomas a arweiniodd yr hyfforddiant ar gyfer swyddogion pedair coes diweddaraf Gwent: "Mae'n wych croesawu Maui a Woody i'r tîm.
"Mae'r cŵn, a'u trinwyr, wedi gweithio'n anhygoel o galed dros y misoedd diwethaf er mwyn cyrraedd y safon genedlaethol ofynnol i ddod yn gi heddlu trwyddedig.
"Mae ein cŵn yn chwarae rhan allweddol mewn amrywiaeth o waith plismona ac maen nhw'n gaffaeliad gwerthfawr.
"Bydd Maui a Woody'n ymuno â'u trinwyr ar sifft yn awr ac maen nhw'n awyddus i ddarparu cefnogaeth weithredol er mwyn gwasanaethu cymunedau Gwent.
Am ragor o newyddion am adran cŵn y llu, ewch i https://www.gwent.police.uk/police-forces/gwent-police/areas/about-us/about-us/meet-our-police-dogs/.