Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:18 11/06/2021
Cawsom alwad ynglŷn ag ymosodiad difrifol yn Balfe Road, Casnewydd tua 9.05pm ddydd Iau 10 Mehefin ar ôl i ddyn gael ei ganfod yn anymwybodol ac yn anymatebol.
Aeth swyddogion yr heddlu yno, gyda pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru a datganwyd bod dyn 26 oed wedi marw, ac maen nhw yn dal yn y lleoliad.
Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi’i lansio ac mae pump o bobl – tri dyn, 18 a 19 oed, a dau fachgen 17 oed – yn y ddalfa gan yr heddlu ar hyn o bryd ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae ymholiadau'n parhau ar hyn o bryd a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliad ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod log 2100203630.
Gallwch hefyd anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter, neu gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.