Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
20:46 11/06/2021
Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Mae Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn cynrychioli ystod eang o unigolion sydd wedi dangos gwasanaeth a dyletswydd ragorol.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Paul Griffiths, un o swyddogion presennol Heddlu Gwent, wedi cael ei gydnabod ar restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines.
Ar hyn o bryd Paul yw Llywydd Cymdeithas Uwch-arolygwyr yr Heddlu, ac wedi bod ag amrywiaeth eang o swyddi o fewn plismona yn ystod ei yrfa ragorol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Pam Kelly:
"Rwy'n falch iawn o allu rhannu'r newyddion anhygoel hyn gyda'n cymunedau a'n sefydliad.
"Drwy gydol ei gyfnod ym maes plismona, mae Paul wedi bod yn ymwneud â nifer o achosion cymhleth ac wedi cyfrannu'n helaeth at Elusen Diwrnod Cofio Genedlaethol yr Heddlu ac Ymddiriedolaeth Goffa Coedardd yr Heddlu.
"Yn benodol, Paul fu’n arwain Ymgyrch Imperial, ymchwiliad manwl i Gaethwasiaeth Fodern a arweiniodd at nifer o euogfarnau llwyddiannus.
"Mae bod yn yr heddlu wedi profi i fod yn fwy na swydd i Paul, mae'n deulu estynedig sydd wedi ymrwymo i helpu’r rhai sydd mewn angen a rhoi rhywbeth yn ôl.
"Ar ran pawb ledled Gwent llongyfarchiadau Paul, bydd yn falch o dy lwyddiant, rydym ni i gyd mor falch ohonot ti."