Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:58 14/06/2021
Lansiodd Heddlu Gwent ymchwiliad i lofruddiaeth ddydd Iau 10 Mehefin ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod yng Nghasnewydd.
Cafodd swyddogion eu hysbysu am ymosodiad difrifol tua 9.05pm ar Heol Balfe a chanfuwyd Ryan O'Connor, dyn 26 oed o Gasnewydd, yn anymwybodol a diymateb.
Yn ddiweddarach cadarnhaodd barafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru ei fod wedi marw.
Mae teulu Ryan yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ac maent wedi cyhoeddi'r deyrnged ganlynol iddo:
"Roedd Ryan yn berson cariadus a gofalgar. Mae wedi ein gadael yn llawer rhy gynnar a bydd pawb ohonom yn gweld colled enfawr ar ei ôl.
"Roedd ei deulu a'r gymuned leol yn ei garu, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gefnogaeth rydym wedi ei derbyn ganddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn i'n teulu.
"Hoffai'r teulu cyfan ddiolch i bawb am y caredigrwydd maent wedi ei ddangos i ni.
“Gofynnwn yn daer ar unrhyw un â gwybodaeth i weithio gyda'r heddlu a chynorthwyo eu hymchwiliad mewn unrhyw ffordd y gallant.”
Arestiwyd pump o bobl - tri dyn o Gaerdydd a dau fachgen, un o Gaerffili ac un o Gaerdydd - ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Cyhuddwyd pob un ohonynt o un cyfrif o lofruddiaeth ac un cyfrif o ladrad. Ymddangosodd y pump yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun 14 Mehefin.
Rydym yn apelio ar unrhyw un â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymholiadau i ffonio 101 neu anfon neges uniongyrchol atom trwy gyfrwng Facebook neu Twitter, gan ddyfynnu rhif cofnod 2100203630.
Gofynnir i unrhyw un â lluniau camera car o Heol Balfe, yn arbennig y gylchfan a'r ardal o amgylch, rhwng 8.45pm a 9.20pm dydd Iau 10 Mehefin gysylltu â ni.
Gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw hefyd trwy ffonio 0800 555 111 gydag unrhyw fanylion.