Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn awyddus i ddychwelyd nifer o bethau gwerthfawr, gan gynnwys gemwaith ac oriorau, i’w perchnogion ar ôl i swyddogion atafaelu 14 o eitemau yn ystod arestiad yng Nghaerffili.
Fe wnaeth swyddogion stopio car ar yr A469 ddydd Gwener 9 Ebrill ac yn ddiweddarach arestio dyn 20 oed o Gaerffili ar amheuaeth o fod yn barod i ddwyn. Mae wedi’i ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Datgelodd chwiliad o'r cerbyd lawer o emwaith – gan gynnwys tlysau, swyndlysau, mwclis a chrogdlysau – a dwy oriawr.
Dywedodd PC Naomi Young: "Rydym wedi dod o hyd i lawer o bethau gwerthfawr ar ôl i swyddogion arestio dyn yng Nghaerffili.
"Wrth chwilio’r car, daethom o hyd i eitemau gan gynnwys gemwaith ac rydym yn mynd trwy'r broses o nodi pa rai o'r rhain sydd wedi’u riportio i fod wedi'u dwyn.
"Mae ein hymchwiliad yn parhau, a'n nod yw gallu eu dychwelyd i'w perchnogion haeddiannol. Rydym yn annog unrhyw un sy'n adnabod unrhyw un o'r pethau gwerthfawr i gysylltu â ni."
Os ydych yn adnabod unrhyw un o'r eitemau, gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2100121924 neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.