Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Gwent yn gofyn yn daer ar y cyhoedd i wneud y dewis cywir pan fyddant yn cysylltu â ni er mwyn helpu i gadw'r llinell 999 yn rhydd ar gyfer materion o argyfwng.
Rydym wedi lansio ymgyrch Gwnewch y Dewis Cywir, i'w gwneud yn haws i aelodau'r cyhoedd wybod pryd a sut i gysylltu â'r heddlu, a phwy i gysylltu â nhw i riportio materion nad ydynt yn ymwneud â'r heddlu, fel cŵn sy'n crwydro, tipio anghyfreithlon a phroblemau parcio.
Yn ystod y mis diwethaf derbyniodd ystafell reoli galwadau'r llu 7,488 o alwadau brys a 25,481 o alwadau difrys.
Mae hyn yn cyfateb i gynnydd 21 y cant mewn galwadau brys a chynnydd 21 y cant mewn galwadau difrys yn seiliedig ar ffigurau'r llynedd.
Rhwng mis Ionawr a mis Mai 2021, gwnaethom dderbyn dros 29,000 o alwadau brys a 122,000 o alwadau difrys.
O'r 151,000 o alwadau a dderbyniwyd rhwng mis Ionawr a mis Mai, nid oedd angen ymateb gan yr heddlu i 36 y cant ohonynt.
Mae llawer o bobl yn deialu 999 i riportio materion nad ydynt yn argyfwng ac mae angen i ni gadw'r llinellau brys ar gael er mwyn ymateb i aelodau ein cymuned sydd angen ein cymorth ar unwaith.
Enghreifftiau diweddar o bobl yn camddefnyddio 999:
Enghraifft ddiweddar o gamddefnyddio 101:
Dywedodd Uwch-arolygydd Matt Williams, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth pwynt cyswllt cyntaf:
"Gofynnwn yn daer ar aelodau ein cymuned i wneud y dewis cywir pan fyddant yn cysylltu â ni. Cyn i chi gysylltu, ystyriwch - oes angen yr heddlu arnoch chi neu oes angen asiantaeth arall arnoch chi?
"Rydym wedi bod yn derbyn llawer iawn o alwadau i'n gwasanaeth 999 a 101. Rwyf yn siŵr bod y tywydd twym diweddar a'r pandemig iechyd parhaus wedi chwarae rhan yn y cynnydd mewn galwadau.
"Mae pobl wedi bod yn camddefnyddio'r gwasanaeth 999 a allai fod yn fater o fyw neu farw i rywun yn ein cymuned. Trwy weithio gyda ni a gwneud y dewis cywir rydych chi’n helpu ein trinwyr galwadau i gyrraedd y rhai sydd angen ein cymorth fwyaf.
Mae ein llinell argyfwng 999 i helpu pobl sydd mewn sefyllfaoedd lle mae eu bywydau mewn perygl neu lle mae trosedd wrthi'n cael ei chyflawni. Gallwch gysylltu â ni mewn sawl ffordd ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn argyfwng, gan gynnwys ein llinell 101, ein hadnodd riportio ar-lein ar ein gwefan a thrwy anfon negeseuon uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng Facebook a Twitter."
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng:
Riportio mater nad yw'n argyfwng ar 101/ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol:
Pryd i gysylltu â'ch awdurdod lleol: