Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl cael ein hysbysu am ddifrod troseddol yn Rhodfa'r Parc, Bargod.
Achoswyd difrod i'r rheiliau o gwmpas cae chwarae clwb rygbi Bargod, a daethpwyd o hyd i lawer o wydr wedi chwalu, o boteli wedi torri yn ôl pob tebyg, ar y llawr yn y parc.
Gwelwyd nifer o bobl ifanc, grŵp o rhwng 30 a 40 yn ôl y sôn, yn y parc tua 5.20pm dydd Gwener 19 Mawrth ac mae swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd.
Dywedodd Rhingyll Richard Tovey:
“Rydym yn ymwybodol o hysbysiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg pobl ifanc ar Rodfa'r Parc dydd Gwener 19 Mawrth.
"Mae'r ymddygiad hwn yn gwbl annerbyniol a byddwn yn cysylltu â pherchennog y tir yn rhan o'n hymholiadau. Byddwn yn edrych ar ddelweddau CCTV o'r ardal ar adeg y digwyddiad hwn.
“Bydd unrhyw un sy'n cael ei weld i fod yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol yn ystod y digwyddiad hwn yn cael ei erlyn. Byddwn yn siarad gyda'n hasiantaethau partner hefyd i weld a oes angen gorfodi rheolau mewn ffordd arall.
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael effaith negyddol ar ansawdd bywyd trigolion. Nid yw'n dderbyniol yn ein cymunedau.
"Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoedd sydd wedi helpu i glirio'r gwydr a adawyd gan yr unigolion hyn sy'n meddwl bod achosi difrod i'n mannau agored cyhoeddus a gadael sbwriel yn dderbyniol.
"Rydym yn awyddus i gael help gan rieni a gallant wneud hynny trwy sicrhau eu bod yn gwybod ble mae eu plant, a beth maen nhw'n ei wneud.
“Hoffwn annog unrhyw un ag unrhyw wybodaeth a all ein helpu i adnabod y bobl sy'n gyfrifol i gysylltu â ni ar 101 neu gysylltu â swyddogion cymdogaeth."
Mae ymholiadau'n parhau a gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth a allai helpu ein hymchwiliad, neu sydd â delweddau CCTV neu gamera car, ffonio Heddlu Gwent ar 101, gan ddyfynnu rhif cofnod 2100099915.
Gallwch gysylltu â ni ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter hefyd neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.