Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:01 11/03/2021
Rydym yn apelio am dystion ac unrhyw un a allai fod â delweddau camera car i gyflwyno eu hunain yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd difrifol a ddigwyddodd yng Nghasnewydd y prynhawn yma, dydd Iau 11 Mawrth.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beiciwr a HGV ar Queensway tua 12.15pm.
Derbyniodd y beiciwr, menyw 53 oed, anafiadau difrifol ac aethpwyd â hi i Ysbyty Athrofaol Cymru i gael triniaeth.
Mae’r ffordd ar gau i’r ddau gyfeiriad ar hyn o bryd ac mae’r gwasanaethau brys ar safle’r gwrthdrawiad.
Os oeddech chi yn yr ardal ar y pryd ac os gallwch helpu, ffoniwch 101 gan ddyfynnu rhif cofnod 173 11/03/21 neu anfonwch neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.