Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:04 24/03/2021
Mae swyddogion Blaenau Gwent yn atgoffa trigolion i fod yn wyliadwrus yn dilyn achosion diweddar o ddwyn ceir yn yr ardal.
Mae swyddogion yn ymchwilio i nifer o achosion o ddwyn ceir ym Mrynmawr, Glyn Ebwy a Thredegar yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydym wedi cael ein hysbysu bod pump o geir wedi cael eu dwyn ers yr 8fed o Fawrth.
Mae ymholiadau i'r digwyddiadau'n parhau ac mae mwy o batrolau yn yr ardal.
Gofynnwn i drigolion riportio unrhyw weithgarwch amheus wrthym ni.
Er mwyn lleihau’r posibilrwydd o gael cerbyd wedi ei ddwyn, rydym yn argymell bod trigolion yn sicrhau bod drysau a ffenestri eich car wedi cloi.
Cadwch allweddi o'r golwg - ewch â nhw gyda chi pan ewch i'r llofft os yn bosibl - ac yn bell o ffenestri, drysau a drysau cathod.
Gall lladron ddefnyddio meddalwedd i godi'r signal a ddefnyddir gan systemau mynediad heb allwedd i fynd i mewn i gerbydau.
Pan nad ydynt yn cael eu defnyddio gallwch gadw allweddi electronig mewn pwrs diogel er mwyn rhwystro lladron rhag eu sganio.
Dylech siarad â'ch deliwr ceir am fesurau diogelwch eraill sy'n berthnasol i'ch model.
Er enghraifft, gellir diffodd rhai ffobiâu mynediad heb allwedd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Mae arbenigwyr diogelwch cerbydau hefyd yn argymell bod pobl yn cadw eu hallweddi electronig mewn cynhwysydd â leinin metel i rwystro lladron rhag codi'r signal.
Awgrymiadau eraill ar gyfer atal trosedd:
• Parciwch gerbydau yn y garej neu ar rodfa
• Parciwch mewn mannau gyda digon o olau a cheisiwch osgoi mannau sydd yn dywyll neu wedi eu cuddio o olwg y cyhoedd
• Peidiwch byth â gadael unrhyw eitemau personol yn y golwg yn y cerbyd
• Peidiwch â gadael tystiolaeth bod eiddo gwerthfawr yn y cerbyd e.e. marciau system llywio lloeren ar y ffenest flaen.
• Sicrhewch fod cerbydau wedi cloi bob amser pan nad oes neb ynddynt
• Byddwch yn wyliadwrus a riportiwch unrhyw ymddygiad amheus.
Gall unrhyw un â gwybodaeth am yr achosion diweddar o ddwyn ein ffonio ar 101 neu anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.
Gallwch roi gwybodaeth yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111 hefyd.