Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn cefnogi ymgyrch Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu i gydnabod a dathlu gwaith swyddogion heddlu ymatebol.
Bydd pwyslais arbennig yn cael ei roi ar les yn ystod wythnos gweithredu Lles a Chydnabod Plismona Ymatebol, ynghyd â gwneud swyddogion yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael iddynt a all helpu i roi sylw i broblemau pwysig fel blinder a chydnerthedd.
Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu wedi gweithio gyda Oscar Kilo, Gwasanaeth Lles Cenedlaethol yr Heddlu (NPWS), y Coleg Plismona a Ffederasiwn yr Heddlu, i ddarparu amrywiaeth o ymgyrchoedd lles a chydnerthedd sydd wedi cael eu cyd-gysylltu'n benodol i ddiwallu anghenion swyddogion ymatebol.
Nid yw swyddogion mewn timau ymateb yn gwybod pa sefyllfaoedd y bydd rhaid iddynt eu hwynebu pan fyddant yn mynd i'r gwaith bob dydd. Rhaid iddynt fod yn barod i ymdrin ag amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys sefyllfaoedd cymhleth a all fod yn wrthdrawiadol weithiau. Mae pob diwrnod yn wahanol, ac mae swyddogion yn y swyddi hyn yn dod o lawer o wahanol gefndiroedd ac yn gweithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau. Bydd yr wythnos yn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r maes pwysig hwn o blismona.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro Heddlu Gwent, Ian Roberts: "Swyddogion ymateb yw'r cyntaf i gyrraedd y lleoliad pan gawn ein galw ac maent yn wynebu rhai o'r sefyllfaoedd mwyaf heriol ac anodd yn ein cymdeithas. Maent yn gwneud gwaith anhygoel bob dydd i atal a mynd i'r afael â throseddau, ymchwilio iddynt, a rhoi cymorth i ddioddefwyr.
"Rwyf yn falch o'r cyfraniad gwerthfawr mae swyddogion ymateb yn ei wneud i gadw cymunedau Gwent yn ddiogel.
Dywedodd arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar Blismona Ymatebol, Dirprwy Brif Gwnstabl Serena Kennedy:
"Nod yr wythnos o weithredu yw sicrhau bod swyddogion ymatebol yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi, dangos eu llwyddiant yn y gwaith, gwybod bod eu lles yn bwysig a deall sut a lle i gael cymorth pan fydd ei angen arnynt."
Dywedodd arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar Les, Prif Gwnstabl Andy Rhodes:
"Mae swyddogion ymateb yn gweithio mewn swyddi eithriadol o heriol ac maent yn gweld y gorau a'r gwaethaf o ddynoliaeth yn rheolaidd. Mae mor bwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn i'w cefnogi.
"Mae lles swyddogion a staff yn flaenoriaeth i bob pennaeth heddlu. Rydym bob amser yn gwrando ac mae cefnogaeth ar gael i'r rhai sydd ei angen.”