Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 26 oed o Gasnewydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd angheuol yng Nghasnewydd.
Cafwyd adroddiad am y gwrthdrawiad tua 2am y bore yma, dydd Mercher 31 Mawrth, ac fe ddigwyddodd ar Ffordd Caerllion, Casnewydd. Roedd seiclwr a char, Audi A3 arian, yn rhan o’r ddamwain.
Aethpwyd â'r seiclwr, dyn 37 oed o Gasnewydd, i Ysbyty Athrofaol y Faenor lle, yn drist iawn, y bu farw.
Mae'r dyn 26 oed a arestiwyd yn y ddalfa ar hyn o bryd.
Mae swyddogion yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn yr ardaloedd canlynol tua 2am y bore yma sydd â lluniau o gamera dashfwrdd i gysylltu â ni:
Ffordd Malpas
Cylchfan Old Green
Pont Clarence/Pont y Dref
Clarence Place
Gorsaf drenau Casnewydd
Os gallwch chi helpu, ffoniwch 101 gan ddyfynnu log 28 31/03/21.