Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
00:01 17/03/2021
Yn y cynllun cyntaf o'i fath yn y byd i wasgu’n dynn ar droseddwyr yn y gymdogaeth, bydd byrgleriaid a lladron sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar yn gorfod gwisgo tagiau GPS a fydd yn dilyn eu symudiadau.
Heddlu Gwent yw'r llu cyntaf yng Nghymru i lansio cynllun peilot newydd i fynd i'r afael â byrgleriaid a lladron cyson ac ad-droseddwyr sy'n achosi dinistr a gofid ledled ein cymunedau. Yn gweithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, bydd byrgleriaid a lladron sydd wedi treulio dedfryd o flwyddyn neu fwy yn y carchar yn gorfod gwisgo tag a fydd yn cael ei osod arnynt pan fyddant yn cael eu rhyddhau, a fydd yn galluogi lloerennau GPS i ddilyn eu symudiadau 24 awr y dydd am hyd at flwyddyn.
Bydd y cynllun, sy'n cael ei roi ar brawf mewn chwe ardal heddlu (Avon a Gwlad yr Haf, Swydd Gaer, Swydd Gaerloyw, Gwent, Glannau Humber a Gorllewin Canolbarth Lloegr), yn cael ei lansio ar 12 Ebrill ac amcangyfrifir y bydd rhyw 250 o droseddwyr yn cael eu tagio'n genedlaethol yn y chwe mis cyntaf.
Dywedodd y Gweinidog dros Drosedd a Phlismona, Kit Malthouse AS:
“Mae dioddef byrgleriaeth neu ladrad yn ofnadwy ac rwy'n deall pa mor rhwystredig yw hi pan na ellir dal y tramgwyddwyr, i'r cyhoedd ac i'r heddlu.
"Dylai tagio'r troseddwyr cyson hyn fel ein bod yn gwybod yn union ble maen nhw 24 awr y dydd fod yn sbardun iddynt newid eu ffyrdd a bydd yn helpu'r heddlu i ddod o hyd iddynt a'u cyhuddo os nad ydynt yn gwneud hynny. Mae'n ddull arall i helpu staff y gwasanaeth prawf i leihau trosedd a chadw'r cyhoedd yn ddiogel."
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman:
“Mae effaith byrgleriaeth neu ladrad yn ymestyn yn ehangach na'r drosedd ei hun. Mae'n achosi gofid a phoen emosiynol.
"Mae'n ffaith y bydd 51% o'r bobl sy'n cael eu barnu'n euog o ddwyn, gan gynnwys byrgleriaeth, a 29% o bobl sy'n cael eu barnu'n euog o ladrata yn aildroseddu o fewn blwyddyn i gael eu rhyddhau. Bydd y cynllun peilot hwn yn gweithredu fel rhwystr i bobl sy'n cyflawni'r math hwn o drosedd fel ffordd o fyw, a bydd yn galluogi swyddogion i gymryd camau gweithredu cyflym hefyd.
"Rydym wedi ymroi i amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau, a thrwy weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM gallwn leihau trosedd ac atal troseddwyr rhag elwa ar drosedd."
Yn ogystal â'r cynllun peilot hwn, mae'r llu yn paratoi ar gyfer lansio tîm newydd pwrpasol i gefnogi trigolion, busnesau a swyddogion lleol yn defnyddio dulliau profedig i'w gwneud yn anoddach i droseddwyr lwyddo. Mae Dangos y Drws i Drosedd yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau, megis marcio eiddo, i ganfod ac atal trosedd ledled Gwent.
Bydd y dull newydd sy'n targedu troseddwyr cyson trwy osod tagiau arnynt yn caniatáu i swyddogion gyflwyno unrhyw ddigwyddiadau byrgleriaeth, dwyn neu ladrad y maent yn ymchwilio iddynt i uned bwrpasol dan oruchwyliaeth Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM. Yna bydd staff wedi'u hyfforddi'n gallu gwirio hanes lleoliad y bobl sy'n gwisgo tagiau yn erbyn manylion y drosedd, gan alluogi'r heddlu naill ai i ddiystyru'r rhai dan amheuaeth neu ymchwilio ymhellach iddynt.