Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae chwech o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn cyrch cyffuriau bore heddiw.
Mae Heddlu Gwent wedi gweithio gyda'r Met, Heddlu Dyffryn Tafwys a Heddlu De Cymru i weithredu gwarantau mewn 12 cyfeiriad yn rhan o ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Gweithredwyd y gwarantau mewn chwe eiddo preswyl yng Ngwent - Gilwern, Glyn Ebwy, Blaenau, Caerffili a Chasnewydd ynghyd â dau eiddo busnes yng Nglyn Ebwy a Bedwas, Caerffili.
Gweithredwyd gwarantau mewn cyfeiriadau y tu allan i Went hefyd - yng Nghaerdydd, Rhydychen, Caint a Barking.
Roedd dros 90 o swyddogion yn rhan o'r ymgyrch gan gynnwys swyddogion arbenigol o'n huned troseddau trefnedig, swyddogion sy'n arbenigo mewn dulliau mynediad, swyddogion wedi'u hyfforddi i gynnal chwiliadau a swyddogion o'n huned cŵn.
Mae llwyth o gyffuriau - credir eu bod yn gyffuriau dosbarth A - wedi cael eu hatafaelu a byddant yn cael eu hanfon i gael eu harchwilio a'u hadnabod yn fforensig.
Atafaelwyd arian, gemwaith a cherbydau yn ystod yr ymgyrch hefyd.
Mae chwech o ddynion rhwng 32 a 50 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffur dosbarth A - cocên, ac maent yn y ddalfa.
Cafodd pedwar dyn eu harestio yng Ngwent, un yng Nghaint ac un yn Barking, Llundain.
Y rhai sydd yn y ddalfa:
Dywedodd Ditectif Arolygydd Ian Bartholomew o Uned Troseddau Trefnedig Heddlu Gwent: "Mae ymgyrch heddiw'n dangos ein hymrwymiad i gadw ein cymunedau'n ddiogel trwy fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig. Diolch i waith caled ein swyddogion, mae chwech o bobl yn y ddalfa yn ein cynorthwyo gyda'n hymholiadau.
"Mae ein hymchwiliadau a'r gwarantau hyn heddiw wedi eu hanelu at bobl sy'n elwa ar werthu'r cyffuriau hyn i rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Mae ein gwaith i fynd i'r afael â throseddau trefnedig mor bwysig i rwystro cyffuriau dosbarth A rhag niweidio ein cymunedau lleol.
"Gall unrhyw un sy'n ymwneud â throseddau fel hyn ddisgwyl cael eu hymlid a'u dwyn gerbron y llysoedd.
"Fel bob amser, hoffwn ddiolch i'n cymunedau am eu cefnogaeth. Os gwelwch chi rywbeth o'i le neu sy'n edrych yn amheus, gallwch gysylltu â ni gan wybod y byddwn yn ymdrin â'r mater yn gadarn.”
all unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am ddelio cyffuriau ein ffonio ni ar 101 neu fel arall gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.