Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:08 23/03/2021
Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl derbyn hysbysiad am wrthdrawiad traffig ffyrdd ar y B4269 ger Y Fenni, rhwng Llanelen a Llan-ffwyst, tua 5.30pm ddydd Mercher 10 March.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd – fan Ford Transit arian, Fiat Punto du a Jaguar math X llwyd.
Aethpwyd â dyn 31 oed o ardal Pont-y-pŵl i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle y bu farw'n ddiweddarach.
Gallwn gyhoeddi mai Mark Rowley o Ben-y-garn ydoedd ac mae ei deulu'n derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Roedd swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans De Cymru yn bresennol ar safle'r gwrthdrawiad hefyd.
Mae dyn o Lan-ffwyst wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru diofal. Mae wedi cael ei ryddhau tra bod ymchwiliad yn parhau.
Rydym yn gofyn i unrhyw fodurwyr a oedd yn defnyddio'r ffordd ar yr adeg hon i wirio unrhyw ddelweddau camera car a allai gynorthwyo swyddogion gyda'u hymholiadau.
Rydym yn apelio hefyd ar unrhyw dystion neu unigolion a allai fod â delweddau CCTV neu wybodaeth am y digwyddiad hwn i gysylltu â ni ar 101, gan ddyfynnu rhifau cyfeirnod: 2100084801 neu 318 10/03/21.
Gallwch gysylltu â ni ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter hefyd a gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Mae teulu Mark Rowley, 31 oed o Ben-y-garn, Pont-y-pŵl wedi rhyddhau'r deyrnged ganlynol:
"Roedd Mark yn ddyn bendigedig. Roedd yn dad, mab, dyweddi, brawd, ewythr a ffrind anhygoel i lawer o bobl, a chafodd ei gymryd yn drasig o fuan.
“Mae gennym ddau fab cariadus; mae un wedi cael ei gymryd yn rhy fuan ond bydd ei fywyd a'i etifeddiaeth yn parhau trwy ei blant a'i frawd mawr.
"Mae colli ein mab dan amgylchiadau mor ddirdynnol wedi dinistrio ein teulu. Bydd mam, dad a Scott yn edrych ar ôl Kirsty a'r plant i ti. Fel dy fam, fe wnes addewid i ti, fy mab, na fyddaf yn gadael i dy farwolaeth fod yn ofer.
"Mae colli Mark yn dorcalonnus - mae wedi bod yn gymaint o sioc i bob un ohonom. Roedd ei fywyd yn llawer rhy fyr.
"Byddaf yn colli fy mrawd roeddwn yn ddigon lwcus i allu ei alw'n ffrind gorau a chyfaill yfed. Roedd ganddo'r galon fwyaf ac ef oedd enaid y parti. Tan y tro nesaf frawd.
“Efallai bod Mark yn y nefoedd yn awr, ond mae'n edrych lawr arnom ni gyda gwên fawr ar ei wyneb, peint yn ei law ac mae’n dweud “symudwch ymlaen, gwnewch y gorau o fywyd - ac fe'ch gwelaf i chi i gyd cyn bo hir. Caru chi."
Disgrifiodd ei ddyweddi ef fel ‘enaid hoff cytûn' a'i 'hysbrydoliaeth', ac ychwanegodd: "Fy nghraig gadarn a helpodd fi a'r plant trwy bopeth.
"Rhoddodd Mark gefnogaeth a chariad i bob un ohonom a byddwn yn ei garu am byth."
Mae'r teulu'n dymuno mynegi eu diolch i bawb sydd wedi dangos cefnogaeth, tosturi a chariad trwy'r cyfnod anodd iawn hwn.
Yn benodol, Cwnstabl Cozens, Cwnstabl Pimm, Justine, criw tân Y Fenni o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, staff Ysbyty Athrofaol Cymru a'r trigolion lleol a roddodd gymorth ar y diwrnod hwnnw.