Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddlu Gwent yw'r llu cyntaf yng Nghymru i lansio dull newydd o amddiffyn cymunedau ledled y rhanbarth rhag byrgleriaeth, dwyn a lladrata.
Am y tro cyntaf bydd tîm pwrpasol yn rhoi cymorth i drigolion, busnesau a swyddogion lleol, yn defnyddio dulliau profedig i’w gwneud yn anoddach i droseddwyr lwyddo ac i'w rhwystro nhw rhag elwa ar drosedd.
Yn defnyddio cyfuniad o gudd-wybodaeth gan y gymuned, dulliau cudd a thechnegau ymarferol fel marcio eiddo, mae ein gallu i ganfod y bobl sy'n gyfrifol, eu heuogfarnu a dychwelyd eiddo at ddioddefwyr yn cynyddu’n sylweddol.
Dywedodd Prif uwch-arolygydd Tom Harding: "Rydym am weithio gyda'n cymunedau i herio pobl sy'n meddwl bod cyflawni troseddau yn dderbyniol yma yng Ngwent.
"Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a busnesau i ganfod y bobl sy'n achosi'r mwyaf o niwed ar draws ein cymunedau ac ymdrin yn gadarn â nhw, mewn ffordd sy'n effeithiol ac yn arloesol.
"Bydd yr adran yn defnyddio strategaethau sy'n cael eu harwain gan dystiolaeth sydd wedi cael eu profi i fod yn llwyddiannus yn lleihau’r mathau hyn o droseddau.
“Mae'n wych gweld bod Heddlu Gwent yn dangos y ffordd fel y llu cyntaf yng Nghymru i gyflwyno dull 'Dangos y Drws i Drosedd'.”
Caiff yr adran ei hariannu a'i chefnogi gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Atal trosedd yw prif flaenoriaeth fy nghynllun heddlu a throseddu.
Mae 'Dangos y Drws i Drosedd' yn batrwm sydd wedi cael ei brofi ac mae eisoes wedi bod yn llwyddiannus yn lleihau trosedd mewn lluoedd cyfagos ac rwyf yn falch iawn ein bod yn dangos y ffordd yng Nghymru trwy ei gyflwyno yma yng Ngwent.
“Bydd y tîm newydd yn gweithio mewn partneriaeth â thrigolion a busnesau i roi sylw i lefydd sy'n agored i drosedd ac i fynd i'r afael ag ardaloedd sy'n peri problem ac rwy'n siŵr, trwy waith ar y cyd gan yr heddlu a chymunedau, y byddwn yn creu Gwent mwy diogel i bob un ohonom."