Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:10 13/05/2021
Rydym yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd ar Heol Fasnachol yng Nghasnewydd tua 2.15pm ddoe, dydd Mercher 12 Mai.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng menyw 83 oed a oedd yn cerdded a beic modur a adawodd y lleoliad heb stopio.
Mae ymholiadau'n parhau i ddod o hyd i'r gyrrwr/beic modur.
Aethpwyd â'r fenyw a oedd yn cerdded i Ysbyty Athrofaol Cymru gydag anafiadau i'w phen, ei hysgwydd a'i braich ac mae hi'n dal yno mewn cyflwr sefydlog.
Os gwelsoch chi'r gwrthdrawiad neu os oes gennych chi unrhyw wybodaeth a allai ein helpu gyda'n hymholiadau, ffoniwch 101 gan ddyfynnu rhif cofnod 249 12/05/21, neu anfonwch neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter.