Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:03 18/05/2021
Mae dyn o Gasnewydd wedi’i arestio yn rhan o ymgyrch i fynd i'r afael â llinellau cyffuriau.
Gweithredodd swyddogion oedd yn rhan o Ymgyrch Corban warantau yn oriau mân bore ddoe (dydd Llun) mewn dau gyfeiriad yng Nghasnewydd.
Cafodd dyn 27 oed ei arestio yn dilyn hynny yn Wiltshire ar amheuaeth o ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A - heroin, cocên a chrac cocên yn ogystal ag ymwneud â chyflenwi cyffur a reolir dosbarth B – canabis.
Mae'n parhau i fod yn y ddalfa.
Cafodd dau gar a nifer o ffonau symudol eu hatafael yn ystod yr ymgyrch yng Nghasnewydd ac yn Wiltshire.
Dywedodd Cwnstabl Heddlu Rhys Jones: "Mae mynd i'r afael â llinellau cyffuriau a’r troseddau cysylltiedig yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu'r bobl hynny sydd mewn perygl o gam-fanteisio yn ein cymunedau a gwneud Gwent yn amgylchedd gelyniaethus i'r rheini sy'n ceisio gwneud niwed.
"Mae gan y cyhoedd rhan bwysig i'w chwarae hefyd wrth ddarparu gwybodaeth a all ein cynorthwyo i ddatgymalu llinellau cyffuriau a diogelu unigolion sy'n agored i niwed. Rwy’n annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am ddelio cyffuriau yn y gymuned i roi gwybod i ni, er mwyn i ni allu gweithredu.
"Rwyf hefyd yn apelio ar rieni, plant a'r gymuned ehangach i fod yn wyliadwrus o’r arwyddion y gallai plentyn neu oedolyn agored i niwed fod yn dioddef cam-fanteisio ac iddynt gysylltu â ni."
Gellir rhoi gwybodaeth i ni drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng. Fel arall, gellir cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Mae llinellau cyffuriau yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio gangiau a rhwydweithiau troseddu cyfundrefnol sy'n ymwneud ag allforio cyffuriau anghyfreithlon o un ardal i'r llall. Maen nhw’n defnyddio llinellau ffôn symudol pwrpasol neu fath arall o 'linell ddelio'. Mae'r gangiau cyffuriau yn aml yn manteisio ar blant ac oedolion sy'n agored i niwed i symud y cyffuriau a'r arian. Mae hyn yn cynnwys defnyddio gorfodaeth, bygythiadau, trais ac arfau.
Beth yw'r arwyddion allweddol y gallai person ifanc fod mewn perygl o gam-fanteisio?
Os ydych chi’n berson ifanc sy'n poeni am fod yn rhan o linellau cyffuriau, neu'n adnabod rhywun felly, siaradwch ag oedolyn a dywedwch sut yr ydych chi'n teimlo.
Gallwch hefyd gysylltu â www.fearless.org sy'n eich galluogi i roi gwybodaeth am drosedd yn ddienw.
Gallwch hefyd gysylltu â Childline ar 0800 1111 – maen nhw’n wasanaeth preifat a chyfrinachol a gallwch siarad â chwnselwyr am unrhyw beth sy'n eich pryderu chi.