Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:41 24/05/2021
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i anhrefn a ddigwyddodd yn Nhorfaen ddydd Sul.
Mae 11 o bobl wedi cael eu harestio yn awr ar amheuaeth o anhrefn treisgar.
Mae'r rhai a arestiwyd i gyd yn fechgyn rhwng 13 a 18 oed. Cawsant eu harestio ddydd Sul yn dilyn nifer o hysbysiadau am grwpiau o bobl ifanc gydag arfau yn ardal Heol Wern, Sebastopol.
Ers hynny, maent wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu gydag amodau caeth.
Dywedodd Arolygydd Torfaen, Aled George: "Mae patrolau amlwg wedi cynyddu yn yr ardal i dawelu meddwl trigolion. Mae hyn yn cynnwys yr ardal ar hyd llwybr y gamlas rhwng Pont-y-pŵl a Chwmbrân.
“Mae ymholiadau'n parhau i enwi pawb a oedd yn ymwneud â'r digwyddiad a hoffem ofyn i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth neu ddelweddau CCTV gyflwyno eu hunain i ni.
“Ni fydd Heddlu Gwent yn goddef ymddygiad fel hwn a byddwn yn cymryd camau gweithredu yn erbyn unrhyw un sy'n bwriadu achosi niwed yn ein cymunedau.”
Gofynnir i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth, nad ydynt wedi siarad â swyddogion eto, ein ffonio ni ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 2100179809. Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.