Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Un o'r pethau mwyaf sylfaenol y gall pawb ei wneud i gynyddu eu diogelwch pan fyddant ar y ffyrdd yw gwisgo gwregys diogelwch. Rhywbeth rydyn ni i gyd wedi'i wneud gymaint o weithiau, mae wedi dod yn ail natur a go brin ein bod ni'n meddwl amdano. Ond gall y dasg fach syml honno ar ddechrau pob taith wneud gwahaniaeth mawr.
Yn 2019, nid oedd 23% o'r teithwyr mewn ceir a laddwyd yn gwisgo gwregys diogelwch.
Mae gwregysau diogelwch yn hynod effeithiol wrth amddiffyn deiliaid cerbydau ac yn lleihau'r risg o gael eu hanafu'n angheuol neu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ar y cyd â systemau diogelwch eraill mewn cerbydau.
Bu'n rhaid i wneuthurwyr ceir osod gwregysau diogelwch er 1965 ond ni ddaeth y gyfraith sy'n ei gwneud yn ofynnol i yrwyr a theithwyr sedd flaen eu gwisgo i rym tan 31 Ionawr, 1983. Newidiodd y gyfraith eto ym 1989, gan ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i blant sy'n teithio yng nghefn ceir i wisgo gwregysau diogelwch; cyn newid pellach i'r gyfraith ym 1991 gan ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i oedolion wisgo gwregysau diogelwch yng nghefn ceir.
Cynyddodd deddfau gwregysau diogelwch y defnydd o wregysau diogelwch ac er bod cyfraddau gwisgo gwregysau diogelwch yn uchel, nid yw pawb yn gwisgo un trwy'r amser. Mae defnydd gwregysau diogelwch yng nghefn cerbyd yn aml yn is nag yn y tu blaen.
Bydd GanBwyll a'n cydweithwyr a'n partneriaid ar draws pob un o bedwar Llu Heddlu Cymru yn cymryd rhan yn ymgyrch Gwregysau Diogelwch Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC), a fydd yn rhedeg ledled y DU rhwng Mai 31ain - Mehefin 17eg. Unig nod yr ymgyrch yw codi ymwybyddiaeth a lleihau marwolaethau ac anafiadau a achosir gan beidio â gwisgo gwregysau diogelwch ar ffyrdd Cymru. Mae gyrwyr sy'n cael eu dal yn gyrru heb wisgo gwregys diogelwch yn wynebu dirwy yn y fan a'r lle o £100, neu pe byddent yn cael eu herlyn gallai wynebu dirwy uchaf o £500.
Yn ystod yr ymgyrch byddwn hefyd yn addysgu defnyddwyr ffyrdd ar bwysigrwydd gwregysau diogelwch, yn annog pobl i newid eu hymddygiad a'u hagwedd tuag at wregysau diogelwch a gorfodi yn erbyn y lleiafrif sy'n gwrthod cydymffurfio â deddfau gwregysau diogelwch, gan roi eu hunain ac eraill mewn perygl.
Felly, cyn i chi droi injan eich car ymlaen, gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch teithwyr yn gwisgo'ch gwregysau diogelwch. Gall y peth lleiaf gael yr effaith fwyaf a gallai olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Gwisgwch eich gwregys a chadwch yn ddiogel ar ffyrdd Cymru.