Stamp amser presennol: 06/02/23 10:36:37
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

GWENT POLICE FULL_ white

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Gweithrediad Options | Newid Agweddau er lles Teithiau Mwy Diogel

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Newyddion

07:42 18/05/2021

2229_05_Road_Safety_Week_2021_SM_Graphics_FB_Cym.jpg                  

Mewn gwrthdrawiad, rydych ddwywaith yn fwy tebygol o farw os nad ydych yn gwisgo gwregys diogelwch; gyda gyrwyr a theithwyr  rhwng 17-34 mlwydd oed â'r cyfraddau gwisgo gwregysau diogelwch isaf, ynghyd â'r gyfradd ddamweiniau uchaf. *

Yn ystod Wythnos Diogelwch Ffyrdd Byd-eang, bydd Heddlu Gwent, ar y cyd â Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, yn cynnal Gweithrediad Options i dynnu sylw at beryglon peidio â gwisgo gwregys diogelwch wrth yrru.

Bydd Gweithrediad Options yn caniatáu inni ymgysylltu â'r gyrwyr a'r teithwyr hynny sy'n torri'r gyfraith trwy beidio â gwisgo eu gwregysau diogelwch. Bydd y defnyddwyr ffordd sy'n troseddu yn cael cynnig yr opsiwn o dderbyn dirwy am y drosedd, neu dderbyn mewnbwn addysgol, a ddarperir gan y gwasanaeth tân, sy'n para oddeutu 15 munud.

Mae gyrwyr a theithwyr sy'n cael eu dal yn methu â gwisgo gwregys diogelwch yn wynebu dirwy yn y fan a'r lle o £ 100, ac os cânt eu herlyn ymhellach gallant wynebu dirwy uwch, hyd at £500. *

Dywedodd Rhingyll Simon Austin, Cydlynydd GanBwyll Heddlu Gwent:

“Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r risgiau i’n cymunedau y mae peidio â gwisgo gwregysau diogelwch yn eu peri i bob defnyddiwr ffordd. Byddwn yn canolbwyntio ar ardal Torfaen yn ystod Wythnos Diogelwch Ffyrdd Byd-eang, ac yn annog pawb i wisgo eu gwregysau diogelwch wrth deithio mewn cerbyd modur, a sicrhau mai dyna'r peth cyntaf a wnewch ar ôl mynd i mewn i’r cerbyd. "

Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll:

“Waeth pa mor fyr neu gyfarwydd yw’r daith, gwisgwch eich gwregys diogelwch bob amser; fe all achub eich bywyd. I'r lleiafrif o ddefnyddwyr ffyrdd nad ydynt yn gwisgo gwregys diogelwch, os cânt eu dal yn ystod yr ymgyrch, byddem yn annog y defnyddwyr ffyrdd yna i dderbyn yr opsiwn o ddarpariaeth addysgol o'r gwasanaeth tân, lle y byddant yn dysgu gwneud diogelwch trwy ddewis, nid ar hap ar deithiau yn y dyfodol. Y tu allan i’r ymgyrch hon, bydd GanBwyll hefyd yn delio â phobl nad ydynt yn gwisgo gwregys diogelwch y mae un o’n Swyddogion Lleihau Damweiniau yn eu gweld neu drwy gyflwyniadau a wneir gan y cyhoedd trwy Ymgyrch SNAP.”

Dywedodd Nev Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru:

“Mae nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ffyrdd Cymru yn drasig. Yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gwelwn yn uniongyrchol yr effaith y mae pob digwyddiad yn ei chael ar ein cymunedau.

Trwy ddefnyddio ein hadnoddau a gweithio gyda'n partneriaid yn Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru, rydym yn defnyddio Gweithrediad Options fel ffordd i addysgu a hysbysu ein cymunedau ac atal damweiniau ac anafiadau ac, yn y pen draw, lleihau nifer y digwyddiadau ar ein ffyrdd.

Nod ein cyflwyniad diogelwch yw tynnu sylw at bwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch, hyd yn oed ar deithiau byr, cyfarwydd, a sut y gall fod y gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. ”

Dim ond un o'r arfau sydd ar gael inni yw gorfodi wrth i ni weithio i wneud ffyrdd Cymru yn fwy diogel; ac os gallwn addysgu defnyddwyr ffyrdd a newid agweddau ar y ffyrdd yna gallwn leihau lefel y troseddau a chynyddu diogelwch holl ddefnyddwyr y ffordd.

Trwy ddarparu Gweithrediad Options, ein nod yw addysgu gyrwyr a theithwyr am y risg o beidio â gwisgo gwregys diogelwch a newid ymddygiad ac agweddau'r troseddwyr hynny; bydd y dewis a'r opsiwn yn nwylo'r troseddwyr. Gwnewch y dewis diogel, y dewis cywir a chwaraewch eich rhan i wneud ein ffyrdd yn fwy diogel.

*https://www.think.gov.uk/themes/seatbelts/

 

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu Gwent

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Ymunwch â ni
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.