Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddlu Gwent yw'r heddlu cyntaf i dderbyn marc ansawdd efydd am waith ieuenctid.
Yn 2013, sefydlodd Heddlu Gwent ei raglen Cadetiaid yr Heddlu gyntaf ac eleni derbyniodd Wobr Efydd Llywodraeth Cymru am Waith Ieuenctid.
Dyfarnir y wobr i sefydliad sy'n profi bod ganddo'r cerrig sylfaen hanfodol ar gyfer gwaith ieuenctid o ansawdd uchel. Mae sefydliadau'n cael eu hasesu ar sail perfformiad, ansawdd, dysgu a gofynion cyfreithiol a dangosodd Heddlu Gwent ymrwymiad amlwg i ddarparu profiad sy'n rhoi mwynhad ac sy'n cyfoethogi'r ieuenctid sy'n rhan o'i raglen cadetiaid.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro, Ian Roberts:
“Mae bod yn un o gadetiaid yr heddlu yn ffordd wych o ddysgu am blismona, rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned a dysgu sgiliau a fydd gyda chi am weddill eich bywyd.
"Ers iddi gael ei sefydlu yn 2013, rydym wedi ymroi i ddatblygu rhaglen cadetiaid sy'n rhoi pob cyfle i bobl ifanc ffynnu.
"Rydym wedi derbyn y wobr hon diolch i waith caled ac ymroddiad swyddogion a staff, a chefnogaeth ein cadetiaid presennol."
Mae Heddlu Gwent yn recriwtio cadetiaid newydd ar hyn o bryd. I fod yn un o’n cadetiaid, rhaid i chi fod rhwng 13 a 18 oed, a rhaid i chi fod yn frwd dros gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd a helpu cymunedau Gwent.
Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
"Rwyf yn falch iawn mai Heddlu Gwent yw'r heddlu cyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr Marc Ansawdd Efydd Llywodraeth Cymru am Waith Ieuenctid yng Nghymru. Hoffwn gymeradwyo gwaith ardderchog y tîm NXTGen yn arbennig. Mae ymgysylltu â phobl ifanc mewn ffordd sy'n hwyl, yn effeithiol ac yn rhagweithiol yn hollbwysig i ddyfodol plismona. Rwy'n gwybod bod swyddogion a staff yn angerddol dros bobl ifanc Gwent ac maent yn dysgu ffyrdd newydd o ymgysylltu â nhw yn barhaus. Mae gwrando ar blant a phobl ifanc yn hanfodol i wella ein gwasanaethau ac wrth feithrin ymddiriedaeth a pharch.
"Nid yw’r tîm wedi arafu dim trwy gydol y pandemig; maent wedi canfod ffyrdd creadigol ac arloesol i ryngweithio gyda phobl ifanc. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniad ac edrychaf ymlaen at weld y tîm yn ennill eu Marc Ansawdd Arian."
Dywedodd Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru:
“Mae'r ffordd mae cadetiaid Heddlu Gwent wedi gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol wedi gwneud argraff fawr arnaf. Mae bod yn rhan o'r cadetiaid yn gyfle gwych i bobl ifanc ddatblygu a thyfu wrth gael hwyl ar yr un pryd. Mae'r Marc Ansawdd Efydd am Waith Ieuenctid yn haeddiannol iawn ac yn gydnabyddiaeth wych i bawb sy'n rhan o'r rhaglen."