Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dros £14,000 o arian parod wedi’i atafaelu a 13 o bobl wedi’u harestio yn rhan o’r wythnos ddiweddaraf o weithredu i fynd i’r afael â llinellau cyffuriau yng Ngwent.
Cymerodd heddluoedd ledled y DU ran yn yr wythnos dwysáu rhwng dydd Llun 17 Mai a dydd Sul 23 Mai gyda’r nod o darfu ar y rhai hynny sy’n ymwneud â llinellau cyffuriau.
Model dosbarthu cyffuriau yw llinellau cyffuriau sy’n defnyddio ffonau symudol lle caiff cyffuriau eu hallforio o ddinasoedd mawr a’u mewnforio i ardaloedd eraill, gan ddefnyddio oedolion agored i niwed a phlant yn aml.
Mae’r canlyniadau ar gyfer yr wythnos yng Ngwent yn cynnwys:
Roedd y gweithgareddau yn cynnwys gwarantau mewn dau gyfeiriad yng Nghasnewydd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Bartholomew: “Mae mynd i’r afael â llinellau cyffuriau a throseddau cysylltiedig yn flaenoriaeth i Heddlu Gwent. Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu’r rhai hynny sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio a gwneud Gwent yn amgylchedd digroeso i’r rhai sy’n ceisio gwneud niwed.
“Mae canlyniadau gweithredu yr wythnos hon wedi bod yn hynod bositif o ran diogelu pobl agored i niwed yn ein cymunedau yn ogystal â’r arestiadau. Nid oes dim lle i gyffuriau anghyfreithlon yn ein cymdeithas a byddwn yn parhau i dargedu’r rhai hynny y mae eu gweithgareddau troseddol yn amharu ar fywydau cymunedau yng Ngwent.
“Rydym yn cydnabod nad yw mynd i’r afael â llinellau cyffuriau yn rhywbeth y gellir ei ddatrys gan yr heddlu yn unig. Rydym yn annog pobl ifanc, rhieni a chymuned ehangach Gwent i fod yn gyfarwydd ag arwyddion y gallai person ifanc fod mewn perygl o gael ei ecsbloetio ac i roi gwybod inni am eu pryderon. Mae arwyddion o ecsbloetio yn cynnwys plentyn ag arian nad yw’n gallu ei esbonio, ffôn neu ddillad drud newydd yn ogystal â mynd ar goll yn sydyn.
“Os oes gennych chi unrhyw bryderon bod rhywun yr ydych chi’n ei adnabod yn cael ei ecsbloetio neu os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chyflenwi cyffuriau, ffoniwch ni ar 101 neu 999 mewn argyfwng. Fel arall, gellir cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.”
Beth yw’r arwyddion y gallai person ifanc fod mewn perygl o gael ei ecsbloetio?