Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:05 17/05/2021
Mae ail fenyw wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol ym Mhontllanfraith ddydd Sadwrn 8 Mai.
Digwyddodd tua 7pm ar yr A4048 ger Sainsburys.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng dau gar, Vauxhall Astra a Ford Fiesta.
Aethpwyd â'r tair menyw a oedd yn y Fiesta i'r ysbyty. Mae dwy fenyw, 51 a 53 oed, wedi marw ers hynny ac mae un 29 oed yn dal yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.
Mae'r dyn 20 oed a oedd yn yr Astra yn dal yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.
Gofynnir i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, sydd â delweddau camera car, neu a oedd yn yr ardal ar y pryd, ffonio Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu 2100161029, neu gallwch anfon neges uniongyrchol at yr heddlu ar Facebook neu Twitter.