Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:43 05/05/2021
Mae swyddogion wedi arestio dau arddegyn yn dilyn ein hapêl ddydd Gwener 30 Ebrill, mewn perthynas â lladrad e-feic yng Nghasnewydd ddydd Iau 29 Ebrill.
Arestiwyd bachgen 17 oed o Gasnewydd a chafodd ei gyhuddo’n ddiweddarach o ddau achos o ladrad a dau achos o fod â chyllell, llafn neu wrthrych miniog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Arestiwyd bachgen arall 17 oed, hefyd o Gasnewydd, ar amheuaeth o ddau achos o ladrad. Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.