Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn apelio am wybodaeth ar ôl cael ein hysbysu am ymgais i ladrata yng Nghasnewydd dydd Mawrth 11 Mai tua 5.10am.
Aeth dyn i mewn i Premier Stores yn Heol Alexandra tua 5am a cheisio prynu alcohol o'r siop, y tu allan i oriau trwyddedig.
Yn ôl pob sôn cafodd y siopwr ei fygwth gan ddyn gyda sgriwdreifer ar ôl iddo ddweud wrtho nad oedd yn bosibl prynu'r eitem ar yr adeg honno. Gadawodd y dyn y siop a mynd i gyfeiriad Stryd Fasnachol.
Yn ôl y disgrifiad mae'r dyn yn wyn, tua 5' 5" o daldra, yn fain ac mae rhwng 20 a 22 oed. Roedd yn gwisgo cot las ar y pryd.
Mae ymholiadau'n parhau a hoffai swyddogion i'r dyn hwn a oedd yn y siop ar y pryd gysylltu â nhw gan ei bod yn bosibl bod ganddo fanylion a allai helpu ein hymchwiliad.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth a allai helpu ein hymholiadau, neu sydd â delweddau CCTV neu gamera car, ffonio Heddlu Gwent ar 101, gan ddyfynnu rhif cofnod 2100163810.
Gallwch anfon neges atom ar gyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter hefyd neu gallwch roi gwybodaeth i Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.