Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:46 10/05/2021
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ar ôl gwrthdrawiad traffig ffyrdd marwol ym Mhontllanfraith dydd Sadwrn 8 Mai.
Digwyddodd tua 7pm ar yr A4048 ger Sainsburys.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng dau gar, Vauxhall Astra a Ford Fiesta.
Aethpwyd â’r tair menyw a oedd yn y Fiesta i’r ysbyty. Bu farw un ohonynt, menyw 51 oed. Mae’r ddwy fenyw arall, 53 a 29 oed, yn dal mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae’r dyn 20 oed a oedd yn gyrru’r Astra, yn dal yn yr ysbyty hefyd ac mae mewn cyflwr sefydlog.
Gofynnir i unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad, sydd â lluniau camera car neu a oedd yn yr ardal ar y pryd, ffonio Heddlu Gwent ar 101 gan ddyfynnu 2100161029, neu gallwch anfon neges uniongyrchol at yr heddlu ar Facebook neu Twitter.