Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Cawsom ein hysbysu am wrthdrawiad traffig ffyrdd ar yr A465 - ffordd Blaenau’r Cymoedd - ger Tredegar, tua 12.10pm dydd Llun 22 Tachwedd.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car a gweithiwr ffordd, a gafodd ei gymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd i dderbyn triniaeth.
Dioddefodd y gweithiwr ffordd, dyn 24 oed, anafiadau i’w ben a’i goes. Mae mewn cyflwr sefydlog ond credir y gallai ei anafiadau fod yn rhai sy’n newid bywyd.
Arestiwyd dyn 37 oed o ardal Merthyr Tudful ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru peryglus a gyrru heb yswiriant. Mae wedi cael ei ryddhau tra bod ymchwiliad yn parhau.
Mae ymholiadau’n parhau ar hyn o bryd a gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth a allai gynorthwyo ein hymchwiliad, gan gynnwys delweddau CCTV neu gamera car, ffonio 101, gan ddyfynnu rhif cofnod 2100409928.
Gallwch anfon neges uniongyrchol atom ar Facebook neu Twitter hefyd neu gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gyda manylion.
Rydym wedi cysylltu â Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn unol â’r trefniadau gweithredu safonol gan fod swyddogion yn ymlid cerbyd cyn y gwrthdrawiad.